Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Cryn Gymeradwyaeth 3Rs Ben Newland

15 Gorffennaf 2022

Mae Dr Ben Newland o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi ennill gwobr cryn gymeradwyaeth, gwobrau Disodli, Gwella Lles a Lleihau Niferoedd Anifeiliaid mewn Ymchwil (3Rs), am ei waith yn creu ffordd newydd o astudio Sglerosis Ymledol (MS).

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Disodli, Gwella Lles a Lleihau Niferoedd Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs) yn sefydliad yn y DU a sefydlwyd i ostwng niferoedd yr anifeiliaid sydd angen eu defnyddio mewn ymchwil feddygol. Maent yn cynnal gwobrau’r 3Rs, sy'n dathlu datblygiadau mwyaf cyffrous y flwyddyn.

Daeth gwobr cryn gymeradwyaeth Dr Newland o ganlyniad i gyhoeddi papur a allai helpu i ostwng niferoedd yr anifeiliaid a ddefnyddir wrth astudio MS. Prif nodwedd batholegol MS yw diraddiad y wain fyelin, sylwedd sy'n amgáu nifer o ffibrau nerfol. Mae meddyginiaethau newydd yn ceisio hybu myelin i aildyfu, a allai fod o fudd enfawr i gleifion.

Yn draddodiadol, defnyddir anifeiliaid i brofi’r cyfansoddion MS newydd a allai helpu myelin i aildyfu (neu ailfyelineiddio). Y broblem erioed yw bod angen llawer o anifeiliaid i ddeall a yw’r driniaeth yn cael gwir effaith, hyd yn oed ar gyfer astudiaeth gymharol syml. Fodd bynnag, cyd-weithiodd Dr Newland â'r Athro Anna Williams ym Mhrifysgol Caeredin i ail-greu patholeg afreolaidd a chymhleth MS mewn dysgl petri. Mae’r “model” newydd hwn o’r cyflwr MS yn defnyddio darnau tenau o feinwe’r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, yn hytrach nag anifeiliaid byw. Mae hyn felly yn disodli arbrofi ar anifeiliaid byw ac yn lleihau'n sylweddol y nifer o lygod sydd eu hangen, oherwydd gellir cael sawl darn o ymennydd a llinyn asgwrn y cefn o un anifail. At hynny, mae technoleg newydd Dr Newland, sy'n defnyddio sgaffaldiau cryogel, yn dynwared y cyflwr MS fel ag y mae i’w weld mewn cleifion, mewn modd sy’n llawer agosach na'r technegau blaenorol. Mae hyn oherwydd bod lesau (lesions – sef colli myelin) cleifion MS yn ffurfio mewn rhannau penodol o'r ymennydd, sydd hefyd wedi'u hamgylchynu gan feinwe iach – nid yw wedi bod yn bosib ailgreu’r nodwedd hon wrth feithrin meinwe o'r blaen. Mae ymchwil newydd Dr Newland a'r Athro William wedi dangos bod ychwanegu'r sgaffaldiau cryogel yn caniatáu iddynt gyflwyno adweithydd yn ganolog, i greu briw bach wedi'i amgylchynu gan feinwe iach – darganfyddiad cyntaf o'i fath, sy'n golygu bod hon yn astudiaeth sy’n garreg filltir.

Wrth siarad am y wobr cryn gymeradwyaeth a dderbyniodd, dywedodd Dr Newland “Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae labordai eraill wedi dangos cyn ddiddordeb yn y gwaith, gan fod y dechneg newydd yn caniatáu i gwestiynau gwyddonol pwysig newydd gael eu hateb gan ddefnyddio niferoedd llai o anifeiliaid. Y nod nawr yw helpu grwpiau eraill i gopïo hyn a’i roi ar waith drostynt eu hunain.”

Rhannu’r stori hon