Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn pleidleisio bod ein cyrsiau peirianneg ymhlith y gorau yn y DU

20 Gorffennaf 2022

Mae cwrs Peirianneg Drydanol ac Electronig yr Ysgol Peirianneg yn cymryd y lle gorau am foddhad myfyrwyr, wrth i ganlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACF) gael eu datgelu.

Yr Arolwg hwn yw un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y DU. Mae'n gofyn cwestiynau i fyfyrwyr am ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â'u profiad academaidd, gan gynnwys yr addysgu ar eu cwrs, asesu ac adborth, a pha mor dda y trefnir cyrsiau.

Mae'r arolwg eleni wedi rhestru ein cwrs Peirianneg Drydanol ac Electronig fel y gorau yn y wlad, gyda 95% o sgôr am foddhad cyffredinol yn cael eu rhoi gan ein myfyrwyr. Roedd ein cwrs Peirianneg Integredig hefyd yn uchel ymhlith ein peirianwyr myfyrwyr, gyda sgoriau boddhad o 92%. Mae boddhad cyffredinol ymhlith ein holl fyfyrwyr israddedig yn uchel, sef 82 y cant.

Mae'r canlyniad hwn yn dangos ymdrechion ein staff addysgu, staff y gwasanaeth proffesiynol, ac yn enwedig ein swyddfa addysgu, staff technegol, a'r holl gefnogaeth gan ein myfyrwyr ymchwil.

Dywedodd yr Athro Jianzhong Wu, Pennaeth yr Ysgol: "Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi’n cydnabod bod ein dysgu ac addysgu ymhlith y gorau yn y wlad. Rwy'n ddiolchgar i'n staff ymroddedig am eu gwaith caled yn cyflawni'r canlyniad gwych hwn.

"Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr a roddodd o'u hamser i adael adborth i ni. Mae gwrando ar farn ein myfyrwyr yn bwysig i'n helpu i ddatblygu a gwella profiad ein myfyrwyr yn barhaus. Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn y mae ein myfyrwyr ei eisiau, fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion ar gyfer y dyfodol."

Llongyfarchiadau i bawb yn yr Ysgol Peirianneg sydd wedi ein helpu i gyflawni'r canlyniad gwych hwn.

Rhannu’r stori hon