Ewch i’r prif gynnwys

Sustainable design and sustainable practice

13 Gorffennaf 2022

Photographs of Dan Tilbury and part of the Welsh School of Architecture's exhibition display

Dyma Dan Tilbury, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn esbonio sut y cafodd system arddangos newydd sy’n 100% cynaliadwy ei chreu ar gyfer arddangos gwaith myfyrwyr yr Ysgol.

Ers 2011, mae seilwaith ein sioe haf Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi bod bron yn gwbl gynaliadwy. O ganlyniad i ailgynllunio Adeilad Bute yn ddiweddar a dychwelyd i’r campws ar ôl y pandemig, cawsom gyfle i ddylunio dull newydd ar gyfer ein sioe haf – gan gadw at ein gwerthoedd cynaliadwy.

Cytunodd y staff academaidd a phwyllgor y myfyrwyr y byddai sioe 2021/22 yn cynnwys detholiad wedi'i guradu o waith pob myfyriwr gyda lluniadau A2 a modelau wedi'u gosod ar blinthiau.

Dyma oedd ein brîff a gwnaethom ddatblygu cynnig dylunio a fyddai'n caniatáu i'r arddangosfeydd gael eu datgymalu, eu storio'n effeithlon, eu hadeiladu’n rhwydd a oedd hefyd yn ddigon gwydn i’w hailddefnyddio am flynyddoedd. Roedd angen iddo hefyd roi hyblygrwydd i’r myfyrwyr oedd yn guraduron i gynhyrchu cynlluniau unigryw, ac roeddent eisiau defnyddio deunyddiau o ffynonellau cyfrifol.

Dyluniad effeithlon ac edrych i'r gorffennol am ysbrydoliaeth

Gwnaeth ein hymchwi i adeiladau pren hynafol Japaneaidd/Tsieineaidd (yn dibynnu ar y ffynhonnell) ddatgelu bod yr uniad castell cymhleth yn ffordd o greu cysylltiad 5-ffordd cadarn a fyddai’n rhoi hyblygrwydd o ran cynllun. Er mwyn defnyddio'r uniad hwn, byddai angen i ni ei symleiddio.

Fe wnaethom ddefnyddio 3 haen o bren haenog gwydn i ail-greu'r elfen bloc 3D. Gwnaed prototeipiau cychwynnol â llaw ond sylweddolom yn gyflym y gallai'r cydrannau gael eu torri gan ddefnyddio'r peiriannau CNC a reolir gan Matthew Harris. Arbedodd hyn oriau lawer a sicrhaodd gysondeb ar draws y cynhyrchiad. Fe wnaethom ni greu 304 uniad castell mewn pythefnos.

Mae uniad y castell yn dibynnu ar ddisgyrchiant i'w gadw yn ei le. Yr unig offer sydd eu hangen i’w adeiladu yw allwedd Allen 4mm a morthwyl rwber i wthio’r rheiliau i'w lle, sy’n gwneud y gwaith adeiladu yn gymharol hawdd.

Jig glyfar

Roedd angen 'haneru' y rheiliau llorweddol, wedi'u gwneud o bren haenog 18mm, sy'n croesi ar uniad y castell yn y man croesi. Cafodd prototeipiau eu hamlinellu, eu marcio a’u torri’n ofalus â llaw ond i helpu ein gweithlu o fyfyrwyr gwirfoddol fe wnaethom adeiladu jig clyfar er mwyn iddynt gynhyrchu darn hollol gywir bob 10 eiliad! Roedd yn effeithlon iawn ac arbedodd ddyddiau o waith saer.

Parchu'r deunyddiau

Caiff pob dyluniad cynaliadwy ei farnu gan ei fod yn creu gwastraff. Fe wnaethom ddefnyddio dimensiynau a phrosesau a gynlluniwyd yn ofalus i fanteisio ir eithaf ar y deunyddiau. Cynhyrchodd rheolwr Digital Lab, Matthew Harris, gynllun torri ar gyfer y peiriant CNC a olygai mai dim ond stribed 20mm oedd yn wastraff o bob bwrdd o bren haenog 8' x 4'.

Defnyddiwyd llawer o folltau o ddodrefn a ail-gylchwyd yn ystod ailfodelu'r adeilad.

Dyluniad ar gyfer storio

Sut y byddem yn storio'r cannoedd o gydrannau'n effeithlon pan nad ydynt yn cael eu defnyddio? Roedd hyn yn rhan hynod bwysig o'r dyluniad a chafodd rhan o'r dyluniad gwreiddiol ei ddileu gan y byddai wedi amharu ar effeithlonrwydd storio a thrin. Roedd datrys y broblem hon yn datrys problem arall ar yr un pryd - ni fyddai'r coesau wedi gallu cael eu storio’n daclus gyda'i gilydd yn y dyluniad gwreiddiol, ac roedd yr ail-ddylunio yn lleihau amser peiriant CNC yn sylweddol ynghyd â symleiddio cydosod y blociau.

Roeddem hefyd yn gallu defnyddio cratiau pacio plastig oedd dros ben ar ôl ailfodelu’r adeilad i storio'r 300+ o flociau cestyll.

Crogfachau

Yr elfen olaf y bu'n rhaid i dîm y gweithdy fynd i'r afael â hi oedd sut i hongian llinynnau oddi ar reiliau llorweddol y ffrâm. Yn y diwedd, cawsant eu hysbrydoli i ddylunio’r crogfachau, gan rolyn o fand metal adeiladwyr oedd dros ben o brosiect blwyddyn 1. Mae'r rhain yn 'hongian' dros bob rheilen, gyda thensiwn y llinyn yn eu cadw yn eu lle, heb fod angen unrhyw osodiadau.

Ein tîm ymroddedig

Ni fyddai unrhyw beth yn cael ei gynhyrchu heb dîm ymroddedig. Dysgodd gweithlu bach o fyfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru’r prosesau’n gyflym ac roeddent yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd cynhyrchu. Rheolwyd y gwaith adeiladu a chynllun y dyluniad yn hynod effeithlon gan MacOurley James a Rose Nicholson.

Heb egni, brwdfrydedd a chefnogaeth Pennaeth yr Ysgol, Juliet Davis, a’r darlithydd Shibu Raman, gallwn fod wedi gweld oedi i’r prosiect hwn.

Harddwch trwy ymarferoldeb

Mae symlrwydd y dyluniad hwn hefyd yn cyfleu ei harddwch esthetig. Felly, daeth bloc uniad y castell yn eicon i graffeg yr arddangosfa, a chafodd ei ddefnyddio hyd yn oed yn dlws i gyflawnwyr uchel ac i noddwyr yr arddangosfa.

Gyda’r holl newidiadau y mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi bod drwyddynt, rwy’n falch o’r ffaith bod yr ethos cynaliadwyedd a arloeswyd yn ein sioe haf yn 2011 wedi’i ehangu, wedi’i wella, ac y bydd yn ein hysgogi ymlaen.

Dylunydd, Dan Tilbury, Rheolwr Gweithdy Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Rhannu’r stori hon