Ewch i’r prif gynnwys

Darllenwyr yn yr Ymerodraeth Print

12 Gorffennaf 2022

Astudiaeth grefftus am hanes darllen yn oes yr ymerodraeth Fictoraidd yn ennill gwobrau

Mae'r Athro Llyfryddiaeth Bill Bell wedi ennill gwobrau o fri am ei lyfr ar ddarllenwyr oedd yn teithio yn y 19eg ganrif hir.

Mae Crusoe’s Books: Readers in the Empire of Print wedi ennill Gwobr Kay Daniels Cymdeithas Hanes Awstralia eleni yn ogystal â Gwobr Rosemary Mitchell Cymdeithas Astudiaethau Fictoraidd Prydain (BAVS) yn fuan wedi hynny.

Gan amlygu ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys dyddiaduron, cyfnodolion a diwylliant llenyddol, mae’r Athro Bell yn taflu goleuni ar y ffyrdd hynod ac annisgwyl yr oedd pobl yn darllen yn yr Ymerodraeth Brydeinig am dros ganrif.

Mae’r llyfr rhagorol hwn yn edrych ar arferion darllen carcharorion o Awstralia, fforwyr ym mhegynau’r byd, ymfudwyr ar longau, ymsefydlwyr yn yr Alban, a milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, gan greu darlun hynod ddiddorol sy’n deillio o archifau nad ydym yn eu gweld yn aml a ffynonellau oedd heb eu cyhoeddi’n flaenorol.

Yn eu dyfyniadau, roedd beirniaid Cymdeithas Hanes Awstralia yn canmol ysgolheictod eithriadol yr awdur a’i ddefnydd feistrolgar o iaith ac arddull naratif, gan gydnabod sut mae wedi mynd i’r afael â hanes carcharorion mewn ffordd unigryw a newydd.

“Gan ddefnyddio lens llythrennedd ac arsylwi ei effaith ar ddatblygiad diwylliant ar gyfer y rhai sydd wedi’u carcharu neu eu dadleoli, mae [Crusoe’s Books] yn cyflwyno’r carcharor nid yn unig fel rhywun sy’n darllen testun, ond fel testun darllen. Mae Bell yn olrhain perthnasoedd amryfal ac ymgorfforedig carcharorion i’r gair print, gan osod y stori hon yn gadarn o fewn cyd-destun rhyngwladol yn ystod cyfnod o newid sylweddol mewn hanes imperialaidd.”

Mae blog dadlennol i gyd-fynd â’r llyfr yn cynnig dealltwriaeth fanylach o ddeunyddiau gwreiddiol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb ysgolheigaidd yn y maes newydd hwn o'r dyniaethau sy'n ehangu.

Mae’r Athro Llyfryddiaeth Bill Bell, awdur Travels into Print: Exploration, Writing and Publishing 1760-1860, yn arbenigo mewn llenyddiaeth a diwylliant y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae wedi ysgrifennu ar gymdeithaseg testun, hanes y llyfr, a damcaniaethau am lunio diwylliannau. Bydd casgliad o draethodau wedi’i gyd-olygu i nodi 300 mlynedd o Robinson Crusoe yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddir Crusoe's Books: Readers in the Empire of Print, 1800-1918 gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Rhannu’r stori hon