Ewch i’r prif gynnwys

Enwi Bardd Cenedlaethol Cymru

11 Gorffennaf 2022

Credyd Llun: Camera Sioned/Llenyddiaeth Cymru

Ail gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd yn sicrhau’r rôl fawreddog

Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Hanan Issa (Llenyddiaeth Saesneg, BA 2008) yw pumed Bardd Cenedlaethol Cymru.

Mae'n dilyn ôl troed Ifor ap Glyn, Gillian Clarke (Llenyddiaeth Saesneg, BA 1958, er Anrhydedd 1984), Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis, yn dilyn enwebiadau cyhoeddus a phroses ddethol helaeth.

A hithau’n fardd Cymreig-Iraci, gwneuthurwr ffilmiau ac artist, mae Bardd Plant Cymru Casia Wiliam yn dweud bod ei geiriau “fel rhubanau'n plethu ieithoedd a diwylliannau at ei gilydd”. Bydd Hanan yn ymgymryd â'r rôl heriol o gynrychioli a dathlu ysgrifennu o Gymru gartref a thramor.

Yn Fardd Cenedlaethol Cymru, bydd yn cynrychioli amrywiol ddiwylliannau ac ieithoedd Cymru ac yn gweithredu fel llysgennad dros bobl Cymru. Bydd yn mynd i'r afael â materion pwysicaf ein hoes drwy farddoniaeth, yn mynd â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd, ac yn annog eraill i ddefnyddio eu llais creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol.

Ymysg barddoniaeth Hanan mae’r casgliad My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a'i chyfraniad i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a The Mab (Unbound, 2022).  

Cyd-sefydlodd noson meic agored Caerdydd Where I'm Coming From gyda'r myfyriwr PhD Ysgrifennu Creadigol Durre Shahwar ac mae wedi gweithio gyda Bush Theatre, Channel 4 a Ffilm Cymru/BBC Wales.

Wrth ddechrau ar ei chyfnod tair blynedd, dywedodd Hanan:

“Mae barddoniaeth ym mêr esgyrn y wlad hon. Rwyf am i bobl gydnabod Cymru fel gwlad sy'n llawn creadigrwydd: gwlad o feirdd a chantorion sydd â chymaint i'w gynnig i'r celfyddydau. Hoffwn barhau â gwaith mawr fy rhagflaenwyr yn hyrwyddo Cymru, Cymreictod, a'r Gymraeg y tu allan i'w ffiniau. Yn fwy na dim, rwyf am ennyn diddordeb y cyhoedd mewn barddoniaeth Gymreig, a’u hysbrydoli i weld eu hunain ynddi ac annog ymdeimlad llawer mwy agored o'r hyn yw Cymreictod.” 

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip:

“Rwyf wrth fy modd o gael croesawu Hanan Issa i rôl Bardd Cenedlaethol Cymru. Bydd yn llysgennad diwylliannol i Gymru, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei geiriau a sut mae'n ymateb i ddigwyddiadau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.” 

Ychwanegodd yr aelod o’r panel beirniaid Ashok Ahir:

“Roedd yn rhaid i'r panel ddewis rhwng ystod amrywiol o arddulliau a lleisiau barddonol, ac roedd yn wych o beth gweld y lefel uchel o dalent sy'n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae hwn yn benodiad hynod gyffrous. Mae llais Hanan yn llais traws-gymunedol sy'n siarad â phob rhan o'r wlad. Fe fydd hi'n llysgennad gwych dros genedl ddiwylliannol-amrywiol sy’n edrych tuag allan.”   

Credyd Llun: Camera Sioned/Llenyddiaeth Cymru

Rhannu’r stori hon