Masgiau wyneb yn anniogel mewn peiriannau MRI, yn ôl astudiaeth
11 Gorffennaf 2022
Mae rhai mathau o fasgiau wyneb yn anniogel i'w gwisgo mewn peiriannau MRI, ac o’u cwmpas, yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Profodd y tîm wyth math gwahanol o fasg sy’n hidlo’r aer (filtering face piece FFP3) oedd ar gael i’w prynu a chanfod bod pump yn cynnwys cydrannau magnetig yr ystyrir eu bod yn 'anniogel ar gyfer MRI'.
Mae nifer o fasgiau’n cynnwys stribedi trwyn metel neu glipiau i helpu i siapio'r mwgwd dros y trwyn neu staplau metel i ddal y strapiau elastig yn eu lle. Mae gan rai masgiau hefyd orchudd gwrthficrobaidd sydd fel arfer yn cynnwys arian neu gopr.
Wrth adweithio â'r magnetau enfawr y tu mewn i beiriant MRI, gall y cydrannau metelau achosi nifer o gymhlethdodau, gan gynnwys dadleoli'r mwgwd, y risg y gallai’r cydrannau metel ddod yn rhydd a symud o’u lle, neu hyd yn oed losgi'r claf.
Adroddwyd am un digwyddiad eisoes yn UDA lle nododd claf bod mwgwd wedi llosgi’u hwyneb yn ystod sgan MRI.
At hynny, gall cydrannau metel hefyd achosi i wybodaeth anghywir ymddangos ar sgan. Gall hyn, mewn rhai achosion, olygu nad oes modd defnyddio’r sganiau.
Gan nad oes unrhyw ganllawiau swyddogol ynghylch gwisgo masgiau mewn peiriannau MRI ac o’u cwmpas, mae'r tîm yn argymell system côd lliwiau i wahaniaethu rhwng masgiau 'diogel ar gyfer MRI' a'r rhai y gallai cleifion fod yn eu gwisgo i'w hapwyntiadau ar y diwrnod.
Yn eu hastudiaeth, cynhaliodd y tîm dri sgan MRI ar fodel printiedig 3D o ben a gwddf a oedd wedi'i ffitio ag wyth masg FFP3 sydd ar gael i’w prynu.
Mesurwyd diogelwch pob mwgwd ar sail presenoldeb cydrannau o ddeunyddiau fferromagnetig, presenoldeb deunydd metelaidd, newidiadau mesuradwy i’r masgiau wrth eu defnyddio y tu mewn i’r peiriant MRI, a thymheredd o dros 40°C yn ystod y cyfnod profi hwn.
Canfu'r tîm fod pump o'r wyth masg yn cynnwys cydrannau fferomagnetig a’u bod felly’n "anniogel ar gyfer MRl".
Ystyriwyd bod dau fasg yn “ddiogel ar gyfer MRI” tra bod un yn cael ei ystyried yn “ddiogel yn amodol ar gyfer MRI” oherwydd y risg posib bod rhannau o’r masg yn mynd yn gynnes o dan rhai amodau penodol pan y tu mewn i’r peiriant MRI.
“Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddogfennaeth ddiogelwch yn ymwneud â gwisgo masgiau wyneb mewn peiriant MRI ac o’u cwmpas. Felly, nid yw staff yr ysbyty yn ymwybodol o’r peryglon posibl y gallai masgiau eu hachosi,” meddai prif awdur yr astudiaeth Dr Bethany Keenan, o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.
“Felly mae'n hynod bwysig peidio â chymryd yn ganiataol bod mwgwd yn ddiogel ar gyfer archwiliad MRI. Dylid cynnal gwerthusiad diogelwch i benderfynu pa gydrannau sydd wedi'u gwneud o fetelau fferromagnetig a pha rai sy'n fetel anfferomagnetig.
“Rydym yn awgrymu, lle bo’n bosibl, y dylid archebu masgiau llawfeddygol mewn lliw gwahanol i wahaniaethu rhwng mygydau llawfeddygol sy’n ddiogel neu’n anniogel ar gyfer MRI.”
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yng nghyfnodolyn Clinical Radiology.