Ewch i’r prif gynnwys

Amlygu helynt amodau byw morwyr

7 Gorffennaf 2022

Mae angen cymryd camau i wella lles morwyr nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar egwyl ar y lan oherwydd COVID-19, yn ôl arbenigwr o Brifysgol Caerdydd.

Dangosodd dadansoddiad diweddar gan Ganolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr, ym mis Awst y llynedd  fod 81 o wledydd, o blith 122, wedi llwyr wrthod i forwyr gymryd egwyl ar y lan. Cododd y nifer yma i 87 ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd ffilm animeiddio newydd, sy’n seiliedig ar ganllawiau a ddrafftiwyd gan SIRC, gyda chefnogaeth Sefydliad Lloyd's Register*, yn cael ei lansio yr wythnos hon mewn ymgais i wella profiadau morwyr. Lluniwyd y canllawiau i ychwanegu at isafswm y safonau rheoleiddiol cyfredol fel y'u nodir yn y Confensiwn Llafur Morwrol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Helen Sampson, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn ystod y pandemig, yn aml mae morwyr wedi cael eu cyfyngu i'w llongau ac mewn llawer o borthladdoedd dydyn nhw ddim wedi gallu cymryd egwyl ar y lan.  Mae hyn wedi gwaethygu'r heriau corfforol a seicolegol difrifol y maen nhw wedi'u hwynebu o ganlyniad i orfod aros ar fwrdd y llong am gyfnod hwy na'u cyfnod dan gontract ac oherwydd iddyn nhw gael eu cyfyngu o ran gallu cael gofal meddygol.

"Yn ystod y pandemig nid yw rhai morwyr wedi gallu gosod troed ar dir o gwbl, er bod rhai wedi gwasanaethu'n llawer hirach na chyfnodau eu contract, ac weithiau am dros 12 mis. Cyn COVID-19, byddem wedi disgwyl i tua 90% o forwyr sy'n gweithio ar longau cargo fod wedi cael cymryd gwyliau ar y tir ar ryw adeg yn ystod eu contractau. Yn y cyd-destun hwn, mae'n hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r angen i wella safonau llety ar fwrdd llongau.

“Nid oes ond angen inni gael cip ar y gorffennol cymharol ddiweddar, ac ar rai o'r llongau o'r safon uchaf un heddiw yn y sectorau cargo a theithwyr, i weld enghreifftiau o’r arferion gorau mewn perthynas â darparu cyfleusterau a gofod ar fwrdd y llong.”

Dangosodd ymchwil a gwblhawyd gan SIRC ychydig cyn dechrau'r pandemig ar iechyd meddwl morwyr pa mor bwysig yw llety a chyfleusterau ar fwrdd llongau o ran gwella hapusrwydd a lles ar fwrdd y llong, ac mae morwyr wedi disgrifio natur drist a digalon y llety lle maen nhw’n byw ac yn gweithio am fisoedd lawer.

Mae ffilm animeiddio newydd wedi’i lansio cyn Sul y Môr (Gorffennaf 10) a gynhelir yn y DU i atgoffa plwyfolion Anglicanaidd a'r gymuned ehangach i ystyried morwyr a'u hanghenion.

Ychwanegodd yr Athro Sampson: “Ein gobaith yw y bydd y ffilm animeiddio newydd yn codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig i forwyr yw dyluniad llety yn ogystal â recriwtio a chadw gweithwyr yn y diwydiant yn y dyfodol. Bydd hyn oll yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar amodau bywyd morwyr ar longau.”

Sefydlwyd SIRC ym 1995 gyda’r nod o ymchwilio i forwyr. Mae’r Ganolfan yn rhoi’r pwyslais yn benodol ar faterion iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma'r unig ganolfan ymchwil ryngwladol o'i math ac mae ganddi brofiad heb ei ail o wneud ymchwil yn y maes hwn.

Gwyliwch y ffilm yma

Rhannu’r stori hon