Ewch i’r prif gynnwys

Gorllewin Awstralia’n mabwysiadu 'Model Caerdydd' y DU

6 Gorffennaf 2022

Bydd Comisiwn Iechyd Meddwl Gorllewin Awstralia’n treialu Model Atal Trais Caerdydd (Model Caerdydd) i fynd i’r afael â thrais sy’n gysylltiedig ag alcohol, a hynny’n rhan o becyn diwygio gwerth $252 miliwn Llywodraeth Gorllewin Awstralia i wella gofal brys.

Mae Ysbyty Brenhinol Perth, yn ninas Perth yng ngorllewin Awstralia, wedi'i ddewis i dreialu'r model atal.

Drwy gasglu gwybodaeth ddienw yn adran achosion brys yr ysbyty am y defnydd o alcohol, trais ac anafiadau, bydd Model Caerdydd yn llywio strategaethau amlasiantaethol yn y gymuned i fynd i'r afael ag achosion niwed.

Yn ôl y Comisiynydd Iechyd Meddwl, Jennifer McGrath, bydd deall lle mae trais yn digwydd yn ei gwneud yn bosibl datblygu atebion llwyddiannus i’r problemau hyn mewn ffordd gydweithredol.

“Mae’r Comisiwn Iechyd Meddwl wedi ymrwymo i’w weledigaeth ar gyfer cymuned Gorllewin Awstralia, sef rhywle lle gwelir cyn lleied â phosibl o salwch meddwl a chyn lleied â phosibl o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau eraill,” meddai Ms McGrath.

“Disgwylir i’n cynllun gwerth $3.5 miliwn i dreialu Model Caerdydd, sydd wedi ennill ei blwyf yn y DU, sicrhau manteision i bawb drwy atal trais ac anafiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys lleihau’r pwysau ar adrannau achosion brys a gwasanaethau llywodraethol eraill yng Ngorllewin Awstralia.”

Mae Model Caerdydd, a ddatblygwyd dros 25 mlynedd gan y llawfeddyg a’r aelod o Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd, wedi dangos ei fod yn lleihau trais yn effeithiol drwy seilio strategaethau atal ar wybodaeth a gesglir mewn adrannau achosion brys.

Canmolodd yr Athro Shepherd benderfyniad Gorllewin Awstralia i fabwysiadu'r model, y mae canfyddiadau academaidd yn y rhan honno o’r byd hefyd yn ei gefnogi, meddai.

“Aeth academyddion iechyd cyhoeddus yn Awstralia ati i adolygu strategaethau atal trais yn drylwyr a gweld bod Model Caerdydd nid yn unig yn arbennig o effeithiol o ran lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, ond ei fod hefyd yn fuddiol o ran cost.

“Mae’n wych bod Llywodraeth Gorllewin Awstralia, drwy’r Comisiwn Iechyd Meddwl, wedi gweithredu ar y dystiolaeth hon ac y bydd yn gwneud Model Caerdydd yn rhan o’i chynlluniau gofal brys.”

Ac yntau wedi'i sefydlu ym 1997, mae'r model yn helpu i atal trais mewn llawer o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys y DU, UDA, yr Iseldiroedd, De Affrica a Jamaica.

Rhannu’r stori hon