Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid ecwiti fel sbardun ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru

14 Mehefin 2022

Papers and graph on desk

Pwnc Sesiwn Hysbysu dros Frecwast ddiweddar yn Ysgol Busnes Caerdydd oedd rôl buddsoddi ecwiti yn ysgogi adferiad economaidd ar ôl y pandemig.

Ymunodd Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi'r Grŵp, a Siân Price, Rheolwr Ymchwil a Phartneriaeth Banc Datblygu Cymru, â ni i drafod y dirwedd bresennol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru a rôl buddsoddi ecwiti wrth gefnogi busnesau Cymru.

Dechreuodd Mike drwy gyflwyno eu gwaith: "Mae Banc Datblygu Cymru yn is-gwmni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn llwyr a grëwyd 5 mlynedd yn ôl ar sail ei ragflaenydd, Cyllid Cymru.

"Rydym ni'n gwneud mwy na buddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau yn unig. Mae'r weledigaeth yn adnodd unigryw i Gymru, yn ymwneud â gwerth hirdymor a'r cyfan yn ymwneud â buddsoddi'r arian a'i gael yn ôl fel y gallwn ei ail-fuddsoddi mewn cenedlaethau o fusnesau Cymru yn y dyfodol."

Esboniodd yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig i fusnesau Cymru, yn amrywio o ficro-fenthyciadau hyd at £50,000, i fenthyciadau busnes mawr o hyd at £10 miliwn. Yn ddiweddar hefyd dechreuwyd buddsoddi mewn datblygu eiddo gyda datblygwyr eiddo bach yng Nghymru.

Yn ystod COVID-19, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £92 miliwn mewn tri mis i gefnogi busnesau. Mae hyn wedi parhau i dyfu, gan fuddsoddi £110 miliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.

Yna cyflwynodd Siân Price Dirnad Economi Cymru: "Lansiwyd Dirnad Economi Cymru (EIW) ym mis Mehefin 2018. Cydweithrediad yw hwn rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd  a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

"Ers iddo gael ei lansio, mae EIW wedi bod yn cyhoeddi adroddiadau chwarterol a blynyddol. Ysgrifennir y rhain gan Uned Ymchwil Economi Cymru yma yn Ysgol Busnes Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Max Munday.

"Mae'r adroddiadau chwarterol hyn yn olrhain data cyllid marchnad macro-economaidd a BBaChau Cymru yn ogystal â data ar weithgaredd buddsoddi ac effaith y Banc Datblygu ei hun. Mae amlder yr adroddiadau wedi galluogi EIW i olrhain y pandemig wrth iddo esblygu, yn ogystal ag effaith cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac wedi helpu i wreiddio enw da EIW ymhlith dylanwadwyr polisi a swyddogion polisi wrth iddynt ddarparu data a dadansoddiadau rheolaidd ar lefel Cymru."

Wrth sôn am yr adroddiad diweddaraf, dywedodd Siân: "Mae'r optimistiaeth a brofwyd ar ddiwedd 2021 wedi lleihau gyda'r rhagolygon yn gwaethygu ar gyfer yr economi yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn."

Roedd canfyddiadau adroddiad diweddar mis Mehefin yn cynnwys:

  • GDP yn adfer i lefelau'n uwch nag oeddent cyn y pandemig
  • Tynhau amodau'r farchnad lafur ymhellach yn y DU, gyda lefelau uchel o swyddi gwag a chyfraddau diweithdra yn gostwng
  • Cymru oedd ag un o'r cyfraddau diweithdra isaf yn y DU yn y tri mis hyd at Chwefror 2022, ar 3%, o'i gymharu â 3.8% yn y DU
  • Chwyddiant ar ei uchaf ers 30 mlynedd ac yn debygol o daro 10% erbyn yr hydref wrth i'r rhyfel yn Wcráin godi prisiau tanwydd ac ynni.

Gan symud ymlaen at y darlun BBaChau yn y DU a Chymru, dywedodd fod gwerth allforion o Gymru wedi cynyddu i £15.2 biliwn dros y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr '21, gyda gwerth mewnforion nwyddau yn cynyddu i £16.1 biliwn dros yr un cyfnod.

Fodd bynnag, mae pryderon bod nifer o BBaChau bach sy'n allforio yn rhoi'r gorau i fasnachu â'r UE oherwydd costau sefydlog cynyddol, ac mae tystiolaeth bod nifer y cysylltiadau masnachu rhwng y DU a'r UE rhwng prynwyr a gwerthwyr yn gostwng.

Dywedodd Siân: "Mae BBaChau yng Nghymru yn pryderu am gostau cynyddol, gyda 37% yn datgelu bod costau uwch wedi cael effaith sylweddol arnynt yn y flwyddyn hyd at chwarter 4, 2021.

"O ran cyllid BBaChau, mae benthyca gan fanciau wedi dychwelyd i lefelau a welwyd cyn y pandemig gyda £20.46 biliwn o fenthyciadau gan fanciau i BBaChau yng Nghymru yn y flwyddyn i chwarter 2. Amcangyfrifir bod 0.6 miliwn o gwmnïau bach ledled y DU wedi benthyca am y tro cyntaf yn ystod y pandemig yn ôl Banc Busnes Prydain."

Yna manteisiodd Mike ar y cyfle i drafod y gwahanol gyfleoedd ac opsiynau sydd gan fusnesau wrth weithio gyda'r Banc Datblygu, ynghyd â'r strategaethau sydd ganddynt a'r ffyrdd y maent yn cefnogi busnesau.

Gwyliwch y recordiad llawn.

Mae Cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.