Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ymgysylltu cyhoeddus newydd yn teithio i Eisteddfod yr Urdd

30 Mehefin 2022

Ar 30 a 31 Mai, aeth yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol â phrosiect ymgysylltu cyhoeddus newydd i Eisteddfod yr Urdd i drafod problem llygredd plastig a'i effeithiau ar ein hamgylchedd. Mae'r prosiect, a ariennir gan CALIN ac a gefnogir hefyd gan Gronfa Sbarduno Ymgysylltu ag Ysbrydoli Prifysgol Caerdydd, yn tynnu sylw at ficroblastigau yn ein hamgylchedd. Mae plastigau o'r fath yn anweledig i'r llygad noeth gan eu bod yn aml yn uno â lliwiau tywod naturiol ar draethau; mae'n broblem gynyddol y mae angen rhoi sylw iddi.

Er mwyn gwneud plastig yn fwy gweladwy ar gyfer y prosiect ymgysylltu cyhoeddus newydd hwn, ychwanegodd Dr Iwan Palmer lifyn o'r enw Nile Red i sampl o dywod. Mae'r sylwedd hwn yn ymrwymo wrth blastig ond nid y tywod o'i gwmpas. O'i weld drwy gogls oren a chyffroi’r sampl â golau glas, mae’r plastig yn fflworoleuo, gan alluogi arsylwyr i weld faint o blastig sydd wedi'i guddio mewn amgylcheddau fel ein traethau.

.

Athraw Arwyn Jones

"Mae bob amser yn wych i mi gael y cyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd mewn gwyddoniaeth, yn enwedig plant ifanc. Mae llygredd plastig yn fater difrifol iawn, ond yn un sydd ar flaen ymwybyddiaeth y cyhoedd, diolch yn bennaf i gyfres wych Syr David Attenborough o Blue Planet II," meddai Dr Palmer o'r prosiect newydd.

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn un o wyliau teithiol ieuenctid mwyaf Ewrop gyda thua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a denodd y gweithgaredd microblastigau dros 1,000 o bobl yn y ddau ddiwrnod yr oedd yn bresennol. Crëwyd y gweithgaredd mewn cydweithrediad â The Young Darwinian, cwmni sy'n darparu gweithdai a phecynnau addysgol ac yn cyhoeddi cyfnodolyn gwyddonol i bobl ifanc. Mae'n bosibl addasu'r gweithgaredd i wneud cyflwyniad syml i'r rhai sy'n dechrau eu teithiau mewn addysg yn unig, i'r rhai sy'n gadael yr ysgol sydd â mwy o ddiddordeb mewn cemeg, ffiseg a'r amgylchedd. Nod y prosiect yn y pen draw yw addysgu'r cyhoedd ynghylch pa mor bwysig yw atal plastig rhag mynd i'r moroedd yn y lle cyntaf, drwy dynnu sylw at y broblem yn llythrennol.

Mae wastad yn bleser i weld pa mor wybodus mae rhai pobl ifanc ynglŷn â materion pwysig fel hyn, a pha mor gyffrous y maent i gyd wrth gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol. Mae’r cyfle i wneud hyn drwy’r Gymraeg mewn digwyddiadau fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn fonws ychwanegol i fi fel siaradwr Cymraeg balch.

Dr Iwan Palmer Post Doctoral Research Associate

Er nad yw cysylltiad rhwng llygredd plastig ac ymchwil fferyllol yn ymddangos yn amlwg ar y dechrau, mae'r cefnforoedd yn ffynhonnell gyfoethog o feddyginiaethau newydd. Hyd yma, mae dros 40,000 o gyfansoddion a allai fod ag eiddo meddyginiaethol wedi'u darganfod o dan y tonnau. Darganfuwyd cyffuriau fel Ara-A ar gyfer trin heintiau feirysol, Ara-C ar gyfer canser ac AZT ar gyfer HIV mewn organebau morol, ac mae hyn yn cynrychioli pen y mynydd iâ yn unig. Mae diogelu ein cefnforoedd a'r organebau sy'n byw ynddynt yn hanfodol ar gyfer datblygiadau meddygol parhaus.

Gan weithio gyda thîm Eisteddfod Prifysgol Caerdydd, roedd Dr Palmer a'i gydweithiwr, yr Athro Arwyn T Jones, wrth eu bodd gydag ymgysylltiad y cyhoedd o bob oed â’r gweithgaredd. Maent bellach yn gobeithio ehangu'r gwaith hwn i gyrraedd cynulleidfa lawer ehangach yn y dyfodol agos. Mi fydd Iwan ac Arwyn yn rhedeg y gweithgaredd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron o’r 30ain o Orffennaf i’r 2il o Awst a byddant yn hapus iawn i’ch gweld yno.

Iwan Palmer
Iwan Palmer yn dangos y gweithgaredd

Rhannu’r stori hon