Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliadau Cyflogwyr Cyfoes

28 Mehefin 2022

Illustration of network of people

Mae cyflogwyr wedi ceisio gwella eu buddiannau o ran gwaith a chyflogaeth ers amser maith trwy ddod ynghyd i ffurfio sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cyflogwyr.

Ond sut mae'r sefydliadau hyn wedi ymaddasu i amgylchiadau sy'n newid? Mae Dr Leon Gooberman a'r Athro Marco Hauptmeier wedi golygu cyfrol o’r enw, Contemporary Employers' Organizations: Adaptation and Resilience, sy'n archwilio'r cwestiwn hwn drwy ddod â phenodau ynghyd gan awduron sy’n arbenigwyr academaidd mewn ystod o gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r llyfr yn dadlau bod sefydliadau cyflogwyr yn rai gwydn sydd wedi addasu mewn modd bragmataidd trwy ddatblygu arferion a gweithgareddau newydd. Mae’r addasu wedi’i ysgogi gan gyd-destunau economaidd a chymdeithasol newidiol, gan gynnwys ymyriadau gwladwriaethol a gweithgareddau undebau.

Mae’r cyd-destunau'n amrywio dros amser, ac yng ngwahanol wledydd a rhanbarthau'r byd. Mae'r llyfr yn archwilio'r amrywiadau hyn a'u heffeithiau ar sefydliadau cyflogwyr. Dyma un o'r ychydig gyfrolau golygyddol sydd yn archwilio gweithredu ar y cyd gan gyflogwyr o ran gwaith a chyflogaeth, a'r gyntaf ers 1984 i ystyried cyd-destunau gorllewinol ac anorllewinol.

Mae i’r llyfr bedair adran thematig:

  • safbwyntiau damcaniaethol ar weithredu ar y cyd gan gyflogwyr
  • sefydliadau cyflogwyr mewn gwahanol fathau o gyfalafiaeth
  • gwahanol fathau o sefydliadau cyflogwyr
  • cynrychiolaeth ryngwladol a chymharol o fuddiannau cyflogwyr.

Ceir archwiliadau damcaniaethol sy'n archwilio pŵer cyflogwyr, dewisiadau gwleidyddol, meta-drefnu, a sylfeini ideolegol ynghyd ag astudiaethau manwl o sefydliadau cyflogwyr yn Tsieina, Denmarc, Awstralia, yr Almaen, Twrci, Canada a'r DU. Yn olaf, mae gwahanol fathau o sefydliadau cyflogwyr megis rhai rhanbarthol a rhyngwladol hefyd yn cael eu harchwilio. Mae'r llyfr o ddiddordeb i ymchwilwyr ym maes cysylltiadau cyflogaeth a chymdeithaseg gwaith, ysgolheigion, myfyrwyr uwch, ac ymarferwyr gan ei fod yn dod â safbwyntiau newydd i bwnc sydd heb ei astudio rhyw lawer hyd yn hyn sef y gweithredwyr ym maes cysylltiadau cyflogaeth: sefydliadau cyflogwyr.

Contemporary Employers’ Organizations: Adaptation and Resilience wedi'i olygu gan Leon Gooberman a Marco Hauptmeier ar gael gan Routledge. ISBN 9781003104575 Mai 2022.


Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.