Ewch i’r prif gynnwys

Taith i’r gofod i ddeall ecsoblanedau yn cael hwb gwerth £30m

27 Mehefin 2022

Argraff artist o ecsoblaned o flaen seren. Cydnabyddiaeth: ESA/ATG medialab, CC BY-SA 3.0 IGO

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi buddsoddiad o £30m ar gyfer taith Ariel i’r gofod i ymchwilio i atmosfferau escoblanedau.

Nod Ariel, sydd i'w lansio yn 2029, yw deall y cysylltiadau rhwng cyfansoddiad cemegol planedau, eu ffurfiant a'u hesblygiad yn ogystal a'u seren letyol, drwy ddisgrifio’n fanwl atmosfferau 1,000 o blanedau hysbys y tu allan i'n cysawd heulol.

Bydd Ariel, sef yr arolwg ar raddfa fawr o Atmosffer Ecsoblanedau sy'n synhwyro’n Isgoch o Bell (Atmospheric Remote-sensing Infrared Exoplanet Large-survey), yn arwain at newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o gynnwys ecsoblanedau, sut roedden nhw wedi ymffurfio a sut y maen nhw’n esblygu.

Bydd data gwyddonol yn cael ei ryddhau i'r gymuned wyddonol a'r cyhoedd yn rheolaidd drwy gydol y cyfnod o bedair blynedd arfaethedig y bydd y prosiect ar waith.

Mae Ariel yn cael ei ddatblygu gan dîm rhyngwladol sy’n cynnwys 17 gwlad dan arweiniad yr Athro Giovanna Tinetti o Goleg Prifysgol Llundain ar y cyd â sefydliadau eraill yn y DU gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a RAL Space y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) yng Nghlwstwr Gofod Harwell yn Swydd Rydychen.

Bydd gwyddonwyr yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn cymryd rhan yn y gwaith o ddadansoddi perfformiad y daith i’r ofod yn ogystal â diffinio, profi a mireinio'r algorithmau cymhleth a fydd yn prosesu'r data y bydd Ariel yn ei ddychwelyd.

Dyma a ddywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, George Freeman: "Mae hwn yn ymrwymiad hynod bwysig ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg gofod yn y DU, ac mae’n garreg filltir bwysig i'r Strategaeth Ofod Genedlaethol ac yn rhoi hwb i'n huchelgais i ddatblygu ein sector masnachol gwerth £16.5 biliwn ar gyfer y gofod.

"Drwy fuddsoddi £30m a chymryd yr awenau yng nghonsortiwm cyfan Ariel – y tro cyntaf ers degawd inni arwain prosiect o'r maint hwn – rydyn ni’n gosod y DU wrth wraidd ymchwil ryngwladol i’r gofod, gan roi cyfleoedd newydd i fusnesau gofod ac academyddion ledled y wlad."

Dyma a ddywedodd yr Athro Matt Griffin, Pennaeth Grŵp Offerynnau Seryddiaeth Caerdydd a Chyd-Brif Ymchwilydd y DU yng Nghonsortiwm Ariel: "Yn sgîl Ariel rydyn ni’n cychwyn cyfnod newydd cyffrous yn ein hymchwiliad i blanedau y tu allan i gysawd yr haul, a byddwn ni’n darganfod llawer mwy am eu atmosfferau a sut maen nhw’n ymffurfio ac yn datblygu.

"Gan fod y daith hon i’r ofod yn un hynod o ddatblygedig ac uchelgeisiol, mae angen buddsoddiad hirdymor a sefydlog arni, ac felly mae’n newyddion gwych bod Llywodraeth y DU ac Asiantaeth Ofod y DU wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw."

Rhannu’r stori hon