Ewch i’r prif gynnwys

Cynulleidfaoedd a beirniaid yn canmol perfformiadau cyntaf symffonïau’r Athro Arlene Sierra

27 Mehefin 2022

Dr Arlene Sierra

Mae perfformiadau cyntaf symffonïau’r Athro Arlene Sierra, gan Thierry Fischer a Symffoni Utah, wedi cael eu canmol i’r entrychion.

Mae Arlene Sierra yn Athro yn yr Ysgol Cerddoriaeth, a hi yw Cyfansoddwr Cyswllt Symffoni Utah.

Arweiniodd yr arweinydd uchel ei barch o'r Swistir, Thierry Fischer, y perfformiad cyntaf yn UDA o ‘Nature Symphony’ (a gomisiynwyd gan y BBC Philharmonic / Radio Three) a’r perfformiad cyntaf yn y byd o ‘Bird Symphony’’ – a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Symffoni Utah.

Wrth sôn am y perfformiad cyntaf yn y byd o ‘Bird Symphony’, dyma a ddywedodd Utah Arts Review: "Ar ôl clywed ‘Nature Symphony’ [Sierra] yr wythnos ddiwethaf a’i cherdd symffonig, ‘Aquilo’, yn gynharach yn y tymor, cyffrous o beth oedd gwrando arni hi’n defnyddio ei llais arbennig mewn darn pwerus newydd sy’n coroni ei thymor o gydweithio’n llwyddiannus â’r gerddorfa.

"... mae ‘Bird Symphony’ Sierra yn debyg iawn i ‘Nature Symphony’, gan gynnwys y ffordd mae’n datblygu’i motiffau a’r defnydd o ostinati haenog i efelychu prosesau naturiol. Yn y gwaith newydd, galwadau adar go iawn oedd y rhan fwyaf o’r deunydd ar gyfer y motiffau, ond gwnaeth Sierra eu datblygu’n rhywbeth ecstatig a newydd nad yw a wnelo dim ag adar.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Arlene Sierra: “Roedd clywed y perfformiadau gwych hyn o'm dwy symffoni gan Symffoni Utah a’r Maestro Fischer yn brofiad bythgofiadwy. Rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am eu cywreinrwydd a'u hymrwymiad. Rwy’n ddiolchgar hefyd i Sefydliad Leverhulme am y gymrodoriaeth ymchwil sydd wedi gwneud hyn a’r prosiectau cysylltiedig yn bosibl.”

Rhannu’r stori hon