Ewch i’r prif gynnwys

Roaring Twenties: Creative Writing successes

23 Mehefin 2022

Blwyddyn ryfeddol o gydnabyddiaeth i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol

Mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a graddedigion diweddar Ysgrifennu Creadigol wedi cyflawni ystod drawiadol o gynnyrch llenyddol, gyda nifer o wobrau dros y deuddeg mis diwethaf.

Rhwng 2021 a 2022 gwelwyd nifer o wobrau, comisiynau, cyhoeddiadau a gwobrau cyntaf i bobl greadigol a hyfforddwyd yng Nghaerdydd, o ddyfarniadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i nofelau cyntaf, cerddi cyntaf byd-eang a straeon byr a gydnabuwyd yn rhyngwladol.

Enillodd yr israddedigion ar eu blwyddyn olaf Bethan Handley (Ysgrifennu Creadigol) a Megan Angharad Hunter (Athroniaeth a Chymraeg) a'r graddedigion Taylor Edmonds a Nasia Sawar (MA Ysgrifennu Creadigol, 2020) ddau o'r pedwar dyfarniad ysgrifennu creadigol yn rhaglen Comisiynau Awduron diweddaraf Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd The Long View ganTaylor a Nasia yn gweld menywod o liw yn cyfuno ymweld â mannau natur yn ardal Caerdydd gyda gweithgareddau gweithdy ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon i greu ymdeimlad o berthyn a hawlio lle yn eu hamgylchedd.

Yn y cyfamser, bydd Beth a Megan yn gweithio ar Write Back/Grym Geiriau gan gynnig encil deuddydd tairieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) lle bydd pobl ifanc sy'n uniaethu'n Anabl/Byddar/â salwch cronig yn dod ynghyd i archwilio eu profiadau a'u perthynas â natur yn Nhŷ Newydd.

Yn unigol, mae Bethan aml-dalentog wedi'i dewis yn un o ddeuddeg unigolyn creadigol yng Nghymru i weithio ar A Story From Our Future fel rhan o GALWAD ac enillodd Megan Goron Eisteddfod yr Urdd a Lyfr y Flwyddyn 2021 gyda'i nofel gyntaf, Tu Ôl i’r Awyr.

Mewn partneriaethau eraill,  golygyddion Lucent Dreaming Jannat Ahmed (MA Llenyddiaeth Saesneg, 2017) a Samiha Meah (blwyddyn olaf BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) yw'r golygyddion llawn amser cyntaf o liw gyda chyhoeddwr yng Nghymru, gan sicrhau cyllid gan Gyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu'r platfform ar gyfer lleisiau newydd o bob cefndir.

Sefydlwyd y cwmni yng Nghaerdydd yn 2017 gan y cyn-fyfyrwyr Jannat Ahmed, Jess Beynon a Joachim Buur, a lansiwyd rhifyn cyntaf y cylchgrawn ysgrifennu creadigol i awduron newydd ym mis Ebrill 2018. Ers hynny maen nhw wedi cyhoeddi deg rhifyn. Eu cyflawniad diweddaraf yw cyhoeddi cyfrol gyntaf Lucent Dreaming, Maps and Rooms: Writings from Wales.

Ymhlith uchafbwyntiau gyrfaol graddedigion diweddar eleni mae penodiadau ar ddau blatfform arwyddocaol. Taylor Edmonds (MA Ysgrifennu Creadigol 2020) yw Bardd Preswyl Cymru Cenedlaethau'r Dyfodol gyda chomisiynau'n cynnwys When I Speak of Bravery, i nodi cerflun cyhoeddus cyntaf Cymru o fenyw, a phenodwyd Laura Horton (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2006) yn Plymouth Laureate of Words ym mis Hydref 2021: y dramodydd cyntaf a'r fenyw gyntaf i ddal y rôl.

Mae ôl-raddedigion Ysgrifennu Creadigol hefyd yn gwneud eu marc gartref a thramor.

Durre Shahwar (Ysgrifennu Creadigol, PhD) yw un o wyth o bobl greadigol yng Nghymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol, a grëwyd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r fyfyrwraig PhD Fayssal Bensalah wedi cipio'r Wobr Toyin Falola gyntaf erioed am ysgrifennu Affricanaidd yng Ngŵyl fawreddog Celfyddydau a Llyfrau Ake yn Nigeria a bu chwech o ôl-raddedigion Ysgrifennu Creadigol yn diddanu cynulleidfaoedd gyda'u cwmni newydd ShareUrScribble yng Ngŵyl Ysgrifennu'r Fenni gyda sesiwn meic agored.

Cyn graddio'r mis hwn, mae Sophie Buchaillard (myfyriwr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, MA Ysgrifennu Creadigol 2020) yn cyhoeddi ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are ac maeSamuel Sargeant (PhD Ysgrifennu Creadigol 2022, MA 2018) wedi llofnodi gyda Neem Tree Press i gyhoeddi ei nofel gyntaf - elfen greadigol ei PhD.

Rhannu’r stori hon