Gwobr Gymreig o fri yn cydnabod Awduron Caerdydd Creadigol
20 Mehefin 2022
Meredith Miller o Ysgrifennu Creadigol ar y rhestr fer ar gyfer 10fed Gwobr Stori Fer Rhys Davies
Mae'r awdur Meredith Miller ymhlith y 12 awdur a gyrhaeddodd restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1991.
Bydd ei stori fer yn ymddangos yn yr antholeg a gyhoeddir gan Parthian Books cyn bo hir. Mae 'Close in Time, Space or Order' yn ymateb i faterion cyfoes, fel y mae'n esbonio:
"Dyma stori am famau, merched, ffeministiaeth, gweithredu er bydd yr hinsawdd a cholled rhwng cenedlaethau. Fe'i hysbrydolwyd yn rhannol gan yr awdures wych o Gymru, Brenda Chamberlain, gan ymgyrchwyr amgylcheddol rwy'n eu hadnabod nawr, a’r rhai rwy'n eu cofio o flynyddoedd yn ôl."
Meredith Miller a anwyd yn Efrog Newydd, yw awdur Little Wrecks (2017) a How We Learned to Lie (2018) yn ogystal â sawl stori fer a nifer o feirniadaethau llenyddol. Mae hefyd yn addysgu yn yr adain ysgrifennu creadigol uchel ei pharch yn yr ysgol.
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau sydd heb eu cyhoeddi yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at uchafswm o 5,000 o eiriau gan awduron 18 oed sydd â gwreiddiau yng Nghymru, boed yn wreiddiol o’r wlad, yn byw yma ar hyn o bryd, neu'n treulio o leiaf dwy flynedd yma.
Cafodd Rhys Davies ei eni yn y Rhondda ym 1901, ac roedd ymhlith y rhai mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus o ryddiaith Gymreig yn Saesneg. Fe ysgrifennodd dros 100 o straeon, 20 nofel, tair nofel, dau lyfr topograffig, dwy ddrama, yn ogystal â hunangofiant.
Mae'r rhestr fer hefyd yn cynnwys gwaith gan Lindsay Gillespie, Bethan James, Laura Morris, Jonathan Page, Matthew G. Rees, Eryl Samuel, Matthew David Scott, Carys Shannon, Anthony Shapland, Satterday Shaw a Daniel Patrick Strogen.
Dywedodd y beirniad gwadd, Rachel Trezise: "Mae'r straeon sydd ar y rhestr fer yn samplau gwych o ysgrifennu straeon byrion ar ei orau — cymeriadau diddorol, plotio clyfar, iaith bwerus a themâu diddorol —nodweddion a wnaeth Rhys Davies yn awdur hynod boblogaidd ac adnabyddus. Mae llawer o'r straeon wedi'u lleoli yn ardal enedigol Davies yng nghymoedd de Cymru, ond ceir lleoliadau trefol hefyd yn ogystal â themâu sy'n amrywio o hunaniaeth a pherthyn i unigedd, ymddieithrio a galar."
Dywedodd Richard Davies o Parthian Books: "Gwobr Stori Fer Rhys Davies yw'r brif wobr ar gyfer ysgrifennu straeon byrion yng Nghymru. O Leonora Brito i Tristan Hughes i Kate Hamer, mae'r enillwyr wastad wedi bod yn awduron o'r radd flaenaf ac anrhydedd fydd cyhoeddi gwaith y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn antholeg arbennig a grëwyd yn benodol ar gyfer y Gystadleuaeth hon."
Mae Tristan Hughes, o Ysgrifennu Creadigol, ymhlith cyn-enillwyr y wobr fawreddog.
Mae Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2022 yn cynnwys gwobr o £1000. Mae'r holl awduron ar y rhestr fer yn derbyn £100 a bydd eu gwaith yn yr antholeg yn dilyn y cyhoeddiad ar 30 Medi.