Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yn ennill Gwobr nodedig gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

8 Mehefin 2022

Image of Dr Morrill

Mae Dr Louis Morrill, o'r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill Gwobr Hickinbottom y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i gydnabod athrylith mewn ymchwil ac arloesedd.

Dyfarnwyd y wobr am ddatblygu methodolegau ar gyfer synthesis cynaliadwy sy'n defnyddio catalyddion di-fetel neu sy'n seiliedig ar fetelau trosiannol yr haen gyntaf niferus o'r ddaear. Bydd yn ymuno â rhestr fawreddog o gyn-enillwyr portffolio gwobrau'r Gymdeithas. Mae 60 ohonynt wedi mynd ymlaen i ennill Gwobrau Nobel am eu gwaith, gan gynnwys enillwyr gwobr Nobel 2016, Jean-Pierre Sauvage, Fraser Stoddart a Ben Feringa a gwobr Nobel 2019 John B Goodenough.

Bydd Dr Morrill yn derbyn £3,000 a medal.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Dr Morrill: “Mae’n syndod bod cyflawniadau ein tîm ymchwil yn deilwng o wobr o’r fath, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt. Hefyd, rydym yn gyffrous am y cyfle i gyflwyno ein hymchwil mewn prifysgolion ar draws y DU ac Iwerddon.”

Nod grŵp ymchwil Dr Morrill yw cyflwyno dulliau synthetig newydd, mwy cynaliadwy i alluogi trawsnewidiadau cemegol sydd fel arall yn anodd eu cyflawni. Mae datblygu prosesau catalytig ac electrogemegol glân a chynaliadwy yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer prosesau diwydiannol. Bydd buddsoddi ac arloesedd yn y maes hwn yn cefnogi gwahanol ddiwydiannau cemegol y DU i fabwysiadu dulliau synthetig mwy cynaliadwy a chyfrannu at flaenoriaethau'r DU (a byd-eang).

Dywedodd y Dr Helen Pain, prif weithredwr dros dro’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol: “Mae gwyddoniaeth wych yn newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am bethau - naill ai trwy'r technegau a ddefnyddir, y canfyddiadau eu hunain, y cynhyrchion sy'n dod i'r amlwg neu hyd yn oed o ran sut rydyn ni'n rhyngweithio â'r byd a'r rhai o'n cwmpas. Mae’n bwysig hefyd i ni fyfyrio ar y bobl anhygoel sy’n ymwneud â’r gwaith hwn a sut y maent wedi cyflawni eu canlyniadau.

“Er ein bod yng nghanol goresgyn cyfnod arbennig o gythryblus a heriol, mae'n bwysig dathlu llwyddiannau a datblygiadau mewn dealltwriaeth sy’n gyfleoedd gwirioneddol i wella ein bywydau. Mae gwaith Dr Morrill yn enghraifft ardderchog o pam rydym yn dathlu gwyddoniaeth wych, ac rydym yn falch iawn o gydnabod ei gyfraniad heddiw.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: rsc.li/prizes.

Rhannu’r stori hon