Ewch i’r prif gynnwys

Bydd pryfed bwytadwy a phroteinau sy'n seiliedig ar blanhigion yn destun trafod yn y dosbarth

26 Mai 2022

Bydd pryfed bwytadwy a dewisiadau gwahanol yn lle cig sy'n seiliedig ar blanhigion yn cael eu trafod gyda phlant yn rhan o ymchwil newydd.

Nod y prosiect, dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), yw darganfod agweddau plant at faterion amgylcheddol a sut mae hyn yn effeithio ar y bwyd y maen nhw’n ei fwyta.

Gan ganolbwyntio ar ddysgwyr o oedran ysgol gynradd (rhwng 5 ac 11 oed) a'u hathrawon yng Nghymru, bydd yr ymchwil yn defnyddio arolygon, gweithdai, cyfweliadau a grwpiau ffocws i astudio dealltwriaeth a phrofiadau pobl ifanc o broteinau amgen. Bydd athrawon hefyd yn esbonio sut y dylid cynnal y trafodaethau hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ogystal â chyhoeddi ymchwil, nod y prosiect yw rhoi adnoddau i ysgolion i'w helpu i gyflwyno gwersi am effaith amgylcheddol yr hyn y mae pobl yn eu bwyta.

Mae'r cam cyntaf, sy'n dechrau'r wythnos hon, yn cynnwys arolygon cychwynnol gydag athrawon mewn ysgolion yn ne Cymru.

Dyma a ddywedodd yr Athro Christopher Bear, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: Mae lleisiau pobl ifanc yn dod yn fwyfwy amlwg yn y trafodaethau ynghylch dyfodol yr amgylchedd a lles anifeiliaid. Mae eu pwyslais, a ymgorfforir ym mudiad ‘Fridays for Future’ Greta Thunberg, ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermio da byw dwys wedi bod yn arbennig o uchel ei broffil.

"Ond prin yw'r ymchwil o hyd ar sut mae'r gwerthoedd hyn yn troi'n agweddau ac arferion o ran bwyta bwyd ymhlith plant. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn gyfle inni ddarganfod sut mae pobl ifanc o oedran cynradd yn rhagweld rôl pryfed bwytadwy a phroteinau sy'n seiliedig ar blanhigion mewn dyfodol lle mae bwyd yn fwy cynaliadwy a moesegol."

Dyma a ddywedodd Dr Verity Jones o UWE Bryste: "Mae cyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, sy'n rhoi’r pwyslais ar ddatblygu dinasyddiaeth foesegol a chynaliadwy yn sgîl addysg ffurfiol, yn rhoi’r cyfle inni weithio gydag ysgolion er mwyn i athrawon gael yr adnoddau cywir ac i blant gael eu grymuso i drin a thrafod rhai o'r materion cymhleth hyn.

“Er ein bod yn canolbwyntio ar Gymru, bydd y canfyddiadau a'r adnoddau yn ymdrin â phryderon a datblygiadau tebyg yn rhyngwladol.”

Dyma a ddywedodd Carl Evans, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn Sir Benfro, sy'n cymryd rhan yn y prosiect: "Yn yr ysgol rydyn ni’n cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng ein cymuned leol, cynhyrchu bwyd a materion byd-eang ehangach sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy. Gwyddom fod y materion hyn yn bwysig i blant, ond mae hefyd yn anodd gwneud synnwyr ohonyn nhw ac yn aml maen nhw’n gallu bod yn ddryslyd iddyn nhw. Rydyn ni’n croesawu'r cyfle i weithio gydag academyddion o Brifysgol Caerdydd ac UWE Bryste i ymchwilio i'r materion hyn a chefnogi plant i ddatblygu meddwl beirniadol ynghylch dinasyddiaeth gynaliadwy."

Mae defnyddwyr yn y DU wedi dangos bod galw cynyddol am ddeiet iach a chynaliadwy, a bod awydd i leihau cynnyrch cig traddodiadol megis cig eidion a chyw iâr.

Canfu astudiaeth yn ddiweddar fod mwy na saith miliwn o oedolion yn y DU yn dilyn deiet heb gig a bod chwe miliwn arall yn bwriadu symud i ddeiet llysieuol neu figan. Roedd deiet heb gig fwyaf cyffredin ymhlith pobl rhwng 18 a 23 oed. Mae'r rhan fwyaf o'r astudiaethau presennol ar agweddau at broteinau amgen yn canolbwyntio ar oedolion; mae'r ymchwil newydd hon yn llenwi bwlch pwysig o ran symud y sylw i blant sy’n ddefnyddwyr pwysig a dylanwadol.

Er bod bwyta pryfed yn gymharol newydd yn y DU, mae dau biliwn o bobl yn eu bwyta’n fyd-eang, yn enwedig yn Asia, De’r Amerig ac Affrica. Maen nhw’n cael eu gwerthu fwyfwy ar draws yr UE. Yn y DU, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wrthi'n asesu criciaid y tŷ i weld a ydyn nhw’n addas i’w bwyta.

Mae proteinau sy'n seiliedig ar blanhigion bellach yn gynnyrch poblogaidd mewn archfarchnadoedd yn y DU, ac maen nhw’n cael eu hyrwyddo ar sail eu cynaliadwyedd amgylcheddol o'u cymharu â sectorau da byw eraill, yn ogystal â'u gwerth maethol uchel.

Rhannu’r stori hon