Ewch i’r prif gynnwys

Cadwraeth yn LA

25 Mai 2022

Conservation alumni at Getty Centre
The Cardiff team were delighted to reconnect with a significant gathering of alumni now working in prestigious conservation roles across the USA

Staff cadwraeth yn siarad yng nghynhadledd rhif 50 Sefydliad Cadwraeth America

Mae cadwraethwyr o Brifysgol Caerdydd wedi annerch cynhadledd flynyddol rhif 50 Sefydliad Cadwraeth America yn Los Angeles.

Roedd mwy na 1,000 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y gynhadledd, a gafodd ei chynnal yng ngwesty eiconig The Westin Bonaventure. Dyma oedd y digwyddiad mwyaf i’r proffesiwn ers sawl blwyddyn.

Mae Sefydliad Cadwraeth America yn cynrychioli mwy na 3,500 o gadwraethwyr ac academyddion ym meysydd gwyddoniaeth, celf a hanes drwy roi triniaeth cadwraeth, gwneud ymchwil, gofalu am gasgliadau ac addysgu mewn tua 40 o wledydd, y mae pob un ohonynt yn ymdrechu i warchod treftadaeth ddiwylliannol er mwyn i ni allu dysgu ohoni heddiw a’i gwerthfawrogi yn y dyfodol.

Gwnaeth yr Athro Cadwraeth, Jane Henderson ACR FIIC SFHEA (MSc Gofalu am Gasgliadau 1999 / BSc Cadwraeth Archaeolegol 1987), a’r Darlithydd Cadwraeth, Dr Ashley Lingle ACR (PhD), roi cyflwyniad ar y cyd ar bŵer cyffwrdd, gan ysbrydoli’r cadwraethwyr i ailystyried diffiniadau o rôl y cadwraethwr a’r proffesiwn ehangach.

Cafodd eu cyflwyniad effeithiol ei ffrydio’n fyw hefyd i gynulleidfa ryngwladol ehangach.

Yn ogystal â hynny, gwnaeth yr Athro Henderson, sef Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol hefyd, gyflwyno goblygiadau casglu’n gyflym yn Amgueddfa Cymru i faes cadwraeth, a hynny mewn papur a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Diane Gwilt, Pennaeth y Gwasanaethau Casgliadau.

Roedd y tîm o Brifysgol Caerdydd yn falch iawn o ailgysylltu â nifer sylweddol o gynfyfyrwyr sydd bellach yn dal swyddi arbennig ym maes cadwraeth ledled UDA. Gwnaeth y tîm hefyd achub ar y cyfle i ymweld â Chanolfan Getty (yn y llun) a labordai cadwraeth Llyfrgell Huntington.

Rhannu’r stori hon