Ewch i’r prif gynnwys

Dr Ana Ros Camacho yn ennill gwobr Hyrwyddwr Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr

23 Mai 2022

Dr Ana Ros Camacho and Tasarla Deadman at the ESLA awards
Dr Ana Ros Camacho and Tasarla Deadman at the ESLA awards

Mae Dr Ana Ros Camacho, Darlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad at wella profiad y myfyrwyr, a hynny â’r wobr Hyrwyddwr Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, yn ddiweddar.

Digwyddiad blynyddol yw'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a grëwyd i gydnabod y staff a myfyrwyr arbennig hynny sy'n cyfrannu at brofiad myfyrwyr Caerdydd. Mae’r wobr dros faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cydnabod myfyriwr neu aelod o staff sydd wedi gweithio i leihau neu gael gwared ar y pethau hynny sy’n gallu rhwystro cyfranogiad, yn ogystal â bod yn fodel rôl i, ac o fewn i, grwpiau a dangynrychiolir.

Bu i actifiaeth EDI Ana ddechrau flynyddoedd yn ôl. Cyn cyrraedd Caerdydd treuliodd 3 blynedd yn Utrecht (Yr Iseldiroedd) lle y bu iddi lansio mentrau newydd gan gynnwys creu a rheoli Cymdeithas Myfyrwyr a Staff Sbaeneg eu hiaith y Sefydliad Mathemateg, a oedd yn anelu at helpu i integreiddio'r lleiafrif penodol hwn i fywyd academaidd Yr Iseldiroedd. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn dau o'r gweithdai "Menywod mewn Algebra a Theori Cynrychiolaeth". A hithau wedi’i hysbrydoli gan y profiad hwn, lansiodd weithdai "Menywod ym maes Ffiseg Fathemategol". Oherwydd ei gwaith, dyfarnwyd Gwobr Amrywiaeth Westerdijk i Ana yn 2019.

Parhaodd Ana â'r gweithgarwch hwn ar ôl cyrraedd Caerdydd ym mis Ionawr 2020. Trefnodd y gweithdy "Menywod ym maes Ffiseg Fathemategol" cyntaf ym mis Medi 2020, a bydd yr ail weithdy yn digwydd yn BIRS-Banff (Canada) ym mis Awst 2023. Ar y cyd â'r myfyriwr ymchwil Tasarla Deadman, lansiodd y Special EDI-tion Colloquium, sef colocwiwm unwaith-y-semester ynghylch materion EDI yn y gymuned fathemateg academaidd. Mewn menter ar y cyd â Dr Kirstin Strokorb, bu i Ana hefyd greu’r Fforwm Cyfnewid ynghylch Addysgu a Goruchwylio" (TEASER), sef cyfarfod misol er mwyn i staff drafod ein harferion addysgu a goruchwylio, gan sicrhau bod EDI yn chwarae rhan bwysig yn hyn. Mae Ana hefyd wedi cefnogi'r Gymdeithas Menywod mewn Mathemateg leol drwy fynychu rhai o'u cyfarfodydd a rhoi cyflwyniad oedd yn myfyrio ar ei phrofiad personol ei hun o fod yn fathemategydd benywaidd. Ym mis Ionawr 2022, fe dderbyniodd rôl Cadeirydd y Pwyllgor EDI lleol, ac o’r fan honno mae'n cydlynu llawer o gamau gweithredu i wella EDI yn yr Ysgol Mathemateg, ar gyfer myfyrwyr a staff fel ei gilydd.

Dywedodd Ana: "Rwy'n teimlo mor hapus i ennill y wobr hon ac yn ddiolchgar iawn, iawn. Mae'n rhoi cymhelliant pellach i mi barhau ar y llwybr hwn a sicrhau bod gennym yr ysgol orau bosibl i'n myfyrwyr a'n staff. Mae mathemateg yn ffynnu gydag EDI!"

Enwebwyd y myfyriwr ôl-raddedig Tasarla Deadman hefyd yn Hyrwyddwr Myfyrwyr dros Faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac enwebwyd y myfyriwr israddedig Naomi Wray ar gyfer Gwobr y Llywydd am ei gwaith yn Llywydd ar y Gymdeithas Pobl Fyddar.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Dr Jonathan Thompson "Mae'n wych gweld y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan Ana, Tasarla a Naomi yn cael ei gydnabod fel hyn. Llongyfarchiadau enfawr a diolch iddynt am eu gwaith caled."

Rhannu’r stori hon