Ewch i’r prif gynnwys

YPC yn croesawu partneriaid UCL a chyrff anllywodraethol o Wganda mewn gweithdy cydweithredol yng Nghaerdydd

23 Mai 2022

UCL and NGO partners from Uganda at the Welsh School of Architecture
Colleagues from UCL and NGO partners from Uganda at the Welsh School of Architecture

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru weithdy cydweithredol ar gyfer yr Uned Cynllunio Datblygu (UCD) yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ynghyd â chwe phartner anllywodraethol o Wganda a'r DU i ddeall y diwydiant datblygu yn Kampala, Wganda.

Cynhaliwyd y gweithdy rhwng 1 a 7 Mai ac roedd yn gyfle i gyfranogwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r diwydiant datblygu yng nghyd-destun gwlad sy'n datblygu (Kampala, Wganda yn arbennig) trwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag arferion a rhanddeiliaid ym maes datblygu. Prif amcan y gweithdy oedd rhoi'r arbenigedd dadansoddol, methodolegol ac ymarferol sydd ei angen ar gyfranogwyr i gael dealltwriaeth feirniadol o arferion datblygu a gwneud cyfraniadau cadarnhaol at yr ymdrech ddatblygu mewn gwledydd y maent yn ymwneud â nhw neu y byddant yn ymwneud â nhw. Fel rhan o'r ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar ymarfer, archwiliodd cyfranogwyr wahanol feysydd thematig ynglŷn â thai fforddiadwy, addysg gynnar, aneddiadau dynol cynaliadwy, y newid yn yr hinsawdd, a rheoli adnoddau naturiol.

Roedd y themâu a oedd wedi'u neilltuo i gyrff anllywodraethol penodol fel a ganlyn:

  • Dinasoedd Deallus a Chynhwysol trwy well gwasanaeth cymdeithasol ar gyfer tlodion Trefi gyda Mentrau Datblygu Integredig Cymunedol (MDIC)
  • Y Newid yn yr Hinsawdd a Threfoli gydag ACTogether
  • Polisïau, cyfreithiau a rhaglenni anheddau dynol ymatebol gyda (Dewisiadau Lloches ac Anheddau Amgen (DLlAA))
  • Mentrau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned gydag Undeb Cydweithredol Tai Wganda (UCTW)
  • Addysg Gynnar o Safon gyda CALM-Affrica
  • Adfer Adnoddau ac Ailgylchu Gwastraff gyda Menter Datblygu Cymunedol Lleol Plwyf Kasubi (KALOCODE)

Yn ystod y gweithdy, cyflwynodd yr Athro Juliet Davis (Pennaeth yr Ysgol, Ysgol Pensaernïaeth Cymru) ddarlith am 'Ddinasoedd Gofalgar' a rhoddodd yr Athro Mhairi McVicar (Athro Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Arweinydd Porth Cymunedol) ddarlith am bartneriaeth prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol â chymuned Grangetown yng Nghaerdydd ac arweiniodd daith o amgylch ardal Grangetown. Siaradodd Dr Shibu Raman (Darlithydd mewn Pensaernïaeth a Threfoli, Ysgol Pensaernïaeth Cymru) am ei stiwdio ddylunio 'Liveable Urbanism' a bu hefyd yn arwain clinig polisi. Cefnogwyd y gweithdy gan ddau fyfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd; Ms Weronika Tadrak (Ysgol Pensaernïaeth Cymru) a Ms Ying Liao (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio)

Daeth yr wythnos i ben gyda chyflwyniadau grŵp ac arddangosfa bosteri yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Cynhyrchodd Dr Raman fideo byr o'r digwyddiad pum diwrnod a gafodd ei sgrinio ar y diwrnod olaf:

Ffilm gweithdy cydweithredol YPC a UCL

Dywedodd Dr Shibu Raman, un o drefnwyr y digwyddiad ac o’r Darlithwyr mewn Pensaernïaeth a Dylunio Trefol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru:

"Roedd y gweithdy'n llwyddiant mawr gyda phawb yn ymwneud yn frwd â’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid, gweithdy polisi, ymweliadau safle a gweithgareddau eraill y gweithdy. Roedd hefyd yn gyfle gwych i bob un ohonom ddatblygu cysylltiadau da â phartneriaid cyrff anllywodraethol yn Wganda a rhannu ein profiadau. Roeddent i gyd yn mwynhau cyfleusterau newydd Adeiladau Bute ac yn canmol yr ysgol am yr holl gymorth a ddarparwyd gennym yn ystod y digwyddiad. Fel menter newydd i feithrin partneriaeth addysgu ac ymchwil hirdymor ag Uned Cynllunio Datblygu UCL, roedd llwyddiant y digwyddiad hwn yn hanfodol i'r ddwy ysgol fel y gallwn adeiladu ar hyn yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon