Ewch i’r prif gynnwys

Celf ar gyfer yr Hinsawdd

23 Mai 2022

Myfyriwr Ysgrifennu Creadigol yn ymuno â'r frwydr Cyfiawnder Hinsoddol yng Nghymrodoriaeth newydd Cymru'r Dyfodol

Mae seren newydd y byd ysgrifennu, Durre Shahwar, ymhlith yr wyth o bobl greadigol a enwyd yng Nghymrodoriaeth gyntaf Cymru'r Dyfodol.

Mae’r Gymrodoriaeth, sydd wedi'i chreu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn archwilio effaith bob dydd newid hinsawdd ar bobl Cymru gan ganolbwyntio ar ynni, bwyd a thrafnidiaeth.

Gan ddefnyddio celf mewn sawl ffurf, bydd y Cymrodyr yn datblygu gwaith i herio'r ffordd y mae pobl yn meddwl am newid yn yr hinsawdd er mwyn annog ffordd o fyw mwy cynaliadwy.

Gan ddechrau gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, bydd pob Cymrawd yn cydweithio â gwyddonwyr a meddylwyr sy'n gweithio i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw, pob un wedi'i gefnogi gan grant o £25,000.

Yn gyd-sylfaenydd 'Where I'm Coming From', digwyddiad meic agored ar y cyd sy'n rhoi llwyfan i awduron o liw, yr awdures Durre Shahwar yw curadur Just So You Know, detholiad o draethodau sy'n cynnwys awduron heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gan weithio ar draws ffiniau ymchwil, traethodau, hunangofiannau a barddoniaeth ryddiaith, mae gwaith Shahwar wedi ymddangos mewn amryw o gyfnodolion a blodeugerddi, gan gynnwys Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Welsh (Plural) (Repeater Books) a Homes for Heroes 100: Council Estate Memories (Gŵyl Syniadau Bryste).

Fel ymarferydd creadigol, mae Durre wedi gweithio gyda British Council Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Artes Mundi, Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru, Llenyddiaeth Cymru. Yn gyn-dderbynnydd Ysgoloriaeth Awduron Llenyddiaeth Cymru, mae Durre wedi bod yn rhan o Writers at Work Gŵyl y Gelli a BBC Writersroom, gyda phrofiad artist preswyl ar y cyd yn Oriel Gelf Glynn Vivian a Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Cymrawd Cymru'r Dyfodol yng nghamau olaf ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol fel derbynnydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De Orllewin Lloegr a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Dywedodd Durre, sy’n ysgrifennu ei llyfr cyntaf  ar hyn o bryd:

“ Mae'n anrhydedd mawr cael y cyfle i ddatblygu fy ymarfer ysgrifennu a chreadigol, yn ogystal ag ymgysylltu â chymunedau ar faterion cyfiawnder hinsoddol er mwyn dychmygu a chreu dyfodol sy'n gynaliadwy ac yn gyfartal i bawb”.

Dywedodd Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi dewis wyth artist rhagorol fel Cymrodyr Cymru'r Dyfodol a fydd yn ysbrydoli dulliau newydd o ymdrin â materion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, lles, Argyfwng yr Hinsawdd a Chyfiawnder Hinsoddol, ac ymgysylltu â phrofiadau byw pobl yng Nghymru a thu hwnt.”

Aelodau cyntaf Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol yw Kathryn Ashill, Angela Davie, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas a Heledd Wyn.

Rhannu’r stori hon