Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant dwy wobr i Bafiliwn Grange

13 Mai 2022

Mae Pafiliwn Grange, canolbwynt prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, wedi ennill dwy wobr fawreddog gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) am greu newid ystyrlon i gymuned Grangetown Caerdydd.

Dyfarnwyd Gwobr Pensaernïaeth Cymru 2022 i'r prosiect yn ogystal â gwobr Cleient y Flwyddyn RSAW 2022. Mae’r prosiect wedi trawsnewid hen bafiliwn bowlio i fod yn ganolbwynt llawn bwrlwm ar gyfer gweithgareddau i’r gymuned.

Cafodd y Pafiliwn ei gydnabod yn 'brosiect cymunedol cwbl arbennig' a'i ganmol am ddangos 'cydweithio ar ei orau' ac am yr effaith y mae wedi'i chael ar drigolion lleol.

Mae Pafiliwn Grange, a gwblhawyd yn 2020, yng nghanol Grangetown, un o'r wardiau mwyaf amrywiol yng Nghymru. Fe'i rheolir gan CIO Pafiliwn Grange, sefydliad elusennol. Mae 60% o bobl y sefydliad yn drigolion a phartneriaid sefydliadol Prifysgol Caerdydd, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cymdeithas Tai Taf a'r RSPB.

Bu i’r Porth Cymunedol ddechrau gweithio gyda thrigolion Grangetown yn 2012, gan gydweithio â Dan Benham Architects, IBI Group a CDF Planning ar y gwaith o ailwampio'r Pafiliwn yn llwyr a chodi estyniad un llawr ar ymyl dwyreiniol y Llain Fowlio. Crëwyd cyfleuster sy’n cynnwys caffi, tair ystafell y gellir eu llogi, tai bach sydd ar gael i ddefnyddwyr y parc, a lleiniau garddio cymunedol yn amgylchynu tir gwyrdd.

Fe'i dyluniwyd gan Benham Architects ac IBI Group, sy'n dweud bod yr adeilad wedi’i seilio ar fod yn gynhwysol, ac ar berchnogaeth preswylwyr dros syniadau, ar ddod â phobl at ei gilydd, a lles y gymuned; dewiswyd deunyddiau adeiladu sy’n adlewyrchu'r golygfeydd sydd o gwmpas yr adeilad.

Mae rhan o'r Pafiliwn wedi'i adeiladu o friciau ar gyfer gwenyn, adar ac ystlumod i greu lle croesawgar ar gyfer pryfed a mynd a dod anifeiliaid, ac mae yno hefyd le i nythu.

Y tu mewn, mae tair ystafell ar gyfer cymdeithasu y gall trigolion y gymuned a grwpiau megis clybiau gwaith cartref, clybiau therapi celf a gweithgareddau chwaraeon dan do, eu llogi ymlaen llawn i’w defnyddio.

Mae ystafell ddosbarth allanol hefyd wedi’i dylunio, sef man ar gyfer dysgu a chydweithio yn yr awyr agored, sy'n gysylltiedig â'r ysgol leol, ac â gweithgareddau garddio cymunedol ar ôl ysgol.

Mae dros 400 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn cyfrannu i’r gwaith o ddatblygu Pafiliwn Grange drwy brosiectau addysgu byw ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, prosiectau dylunio, stiwdios fertigol, traethodau hir, a lleoliadau ymchwil.

Dywedodd Cadeirydd Rheithgor RSAW, Sarah Featherstone: “Yng Nghaerdydd, mae prosiect cymunedol Pafiliwn Grange yn dangos cydweithio ar ei orau, ac sydd wedi trawsnewid bywydau trigolion. Mae'r adeilad wedi’i adeiladu’n lle’r oedd gynt Clwb Bowlio oedd yn cael ei danddefnyddio ac yn dirywio. Mae’r adeilad newydd yn un aml-ddefnydd sy’n gallu addasu i anghenion ei gymuned.”

Dywedodd yr Athro Mhairi Mcvicar, Arweinydd Prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Mae Pafiliwn y Grange yn dathlu'r hyn a all ddigwydd pan ymrwymir i weithio mewn partneriaeth yn hirdymor. Mae nodau'r preswylwyr o sicrhau ansawdd wedi’u hatgyfnerthu gan ddeng mlynedd o addysgu ac ymchwil cydweithredol, ac ymgysylltu. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i roi ein cefnogaeth i lwyddiant hirdymor Pafiliwn Grange, ac adeiladu arno, drwy ein partneriaethau parhaus yn Grangetown.”

Mae'r Porth Cymunedol yn brosiect ymgysylltu blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi ymrwymo i adeiladu partneriaeth hirdymor gyda thrigolion a busnesau Grangetown, gan greu llwybrau rhwng y Brifysgol a'r gymuned a hwyluso cyd-gynhyrchu prosiectau er budd pawb.

Hyd yma mae wedi cefnogi dros 70 o brosiectau prifysgol cymunedol gan wneud cysylltiadau rhwng staff, myfyrwyr y Brifysgol a thrigolion Grangetown i ddod â syniadau a arweinir gan y gymuned, yn fyw, trwy weithio ar y cyd; mae’r rhain yn cynnwys Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, Fforwm Busnes Grangetown a Marchnad Byd Grangetown, rhaglen Gwyddoniaeth Dinasyddion Pharmabees, grŵp rhedeg cymdeithasol Run Grangetown, mentora ar gyfer Hyrwyddo Rhagoriaeth Academaidd (PACE), diwrnodau iechyd meddwl blynyddol, wythnosau Gyrfaoedd a Modelau Rôl blynyddol a diwrnod cynllunio a dathlu Caru Grangetown, blynyddol.

Bydd Pafiliwn Grange nawr yn cael ei ystyried ar gyfer gwobr genedlaethol bwysig Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) i gydnabod ei rhagoriaeth bensaernïol, a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Mehefin.

Rhannu’r stori hon