Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

12 Mai 2022

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi sicrhau canlyniad llwyddiannus yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar – ystyriwyd bod 96% o’i hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesiad o berfformiad ymchwil prifysgolion, sy’n digwydd bob saith mlynedd. Cafodd canlyniadau REF 2021 eu cyhoeddi ddydd Iau, 12 Mai.

Yn ogystal â gwella ein sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd ym mhob maes, rydym yn falch iawn o’r ffaith bod ein pŵer ymchwil, sy’n arwydd o ansawdd a maint ein cyflwyniad, wedi treblu ers 2014. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi bod 96% o'r ymchwil a gyflwynwyd gennym i’r REF hwn wedi’i hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n ymchwil sy’n arwain y byd, sy'n cydnabod bod ein perfformiad ymchwil wedi gwella’n sylweddol.

Ers REF 2014, mae ein Hysgol wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y staff a’r myfyrwyr. Gwnaethom gyflwyno gwaith 100% o’n staff ymchwil cymwys presennol i REF 2021, sy’n cynrychioli cynnydd enfawr yn y gwaith a gyflwynwyd gennym.

Yn ogystal, barnwyd bod 100% o effaith ein hymchwil yn eithriadol neu’n hynod arwyddocaol, sy’n adlewyrchu ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant a phartneriaid ymchwil eraill.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allen: “Rwy'n hynod falch o’n canlyniad yn y REF, sy'n cydnabod ansawdd ein perfformiad ymchwil dros y saith mlynedd diwethaf. Mae ein Hysgol wedi dyblu mewn maint, bron, ers y REF diwethaf. Mae cyflwyno gwaith 100% o’n staff cymwys yn adlewyrchu ein diwylliant ymchwil-ddwys, ein hamgylchedd cynhwysol a chyffro a brwdfrydedd y garfan wych o ymchwilwyr rydym wedi’u recriwtio, sydd ar ddechrau eu gyrfa. Mae’r cyfleusterau gwych a’r cyfleoedd i gydweithio sydd ar gael yn ein hadeilad Abacws newydd wedi trawsnewid amgylchedd ymchwil ein Hysgol. Mae ein canlyniadau’n tystio i waith caled ac arbenigedd ein staff ymchwil, ond hefyd gyfraniad yr holl staff yn ein Hysgol.”

Mae traddodiad cryf o wneud ymchwil ryngddisgyblaethol yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae hynny wedi arwain at agor pum canolfan ymchwil yn y Brifysgol sy’n canolbwyntio ar seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, troseddu a diogelwch a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae cydweithio’n agos â’r diwydiant a phartneriaid academaidd wedi cyfrannu at effaith fyd-eang ein hymchwil, fel y dangosir gan ein hymchwil i nodi ac atal meddalwedd faleisus.

Dywedodd yr Athro Allen: “Mae ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant a sefydliadau eraill wedi cryfhau ein hymchwil a chefnogi ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r heriau byd-eang sy’n gysylltiedig â’n disgyblaeth.”

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyniad Prifysgol Caerdydd i REF 2021 ar gael ar brif dudalennau ymchwil y Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am ymchwil yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Rhannu’r stori hon