Ewch i’r prif gynnwys

Athro Cymdeithaseg o Brifysgol Caerdydd wedi'i hethol i Gymrodoriaeth Gymreig nodedig

11 Mai 2022

A stack of books.
Mae'r Gymrodoriaeth yn dwyn arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt, ynghyd.

Mae athro o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi'i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae'r Athro Sin Yi Cheung yn Athro Cymdeithaseg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Ymchwil, sy'n arbenigo mewn mudo ac anghydraddoldebau cymdeithasol mewn cymdeithasau cyfoes.

Mae ei hymchwil wedi mynd i'r afael ag integreiddiad ffoaduriaid, anghydraddoldebau sy’n newid mewn addysg uwch, cosbau ethno-grefyddol yn y farchnad lafur, a phlant o dan ofal.

Ymhlith y chwe deg chwech o Gymrodyr newydd sydd wedi’u hethol, roedd eu hanner yn fenywod.

Dywedodd yr Athro Cheung:

"Anrhydedd yw imi fod yng nghwmni unigolion mor nodedig. Rwy'n edrych ymlaen at gyflawni cenhadaeth graidd y Gymdeithas wrth sicrhau gwybodaeth gan ystod fwy amrywiol o bobl, a defnyddio arbenigedd gwyddonol ymhellach i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."

Mae'r Gymrodoriaeth yn dwyn arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt, ynghyd.

Dywedodd Yr Athro Urfan Khaliq, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae ethol yr Athro Cheung i'r Gymdeithas Ddysgedig yn brawf o ragoriaeth ryngwladol ei gwaith a'i chyfraniad at hybu ymchwil, dysgu, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.  Mae'n anrhydedd fawr sy’n gwbl, gwbl haeddiannol."

Ymunodd academyddion, ymchwilwyr a ffigurau cyhoeddus â'r Gymdeithas o bob rhan o fywyd academaidd a sifig Cymru a thu hwnt.

Mae cael eich ethol i Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Mae’n digwydd yn dilyn proses fanwl a thrwyadl lle caiff enwebiadau eu cynnig a'u cadarnhau gan Gymrodorion presennol y Gymdeithas.

Ychwanegodd Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas, "Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn gwbl rhagorol. Mae cwmpas yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau amgylcheddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd rydyn ni’n eu hwynebu.”

"Mae gallu'r Gymdeithas i ddod â'r dalent hon at ei gilydd yn ein galluogi i gychwyn, a dylanwadu ar, ddadleuon pwysig am sut y gall Cymru, y DU a'r byd lywio'r dyfroedd cythryblus yr ydym ynddynt heddiw."

A hithau nawr yn Gymrawd, bydd yr Athro Cheung yn ymwneud â gwaith a gweithgareddau parhaus y Gymdeithas, gan gynnwys cymryd rhan mewn darlithoedd cyhoeddus, gweithio gyda Chymrodorion eraill i roi sesiynau hysbysu a chyngor ar bolisïau, ac enwebu Cymrodyr yn y dyfodol.

Mae'r Athro Cheung wedi ysgrifennu'n helaeth ar fudo, integreiddiad ffoaduriaid, hil ac ethnigrwydd, anghydraddoldebau addysgol a'r farchnad lafur.

Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys llyfr ar Farwolaeth Cyfalaf Dynol a phapur wnaeth ddarganfod y cysylltiad empirig cyntaf rhwng amser aros am loches ac iechyd meddwl gwael ffoaduriaid.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.