Ewch i’r prif gynnwys

Fideo: Dadansoddi'r Argyfwng Costau Byw

11 Mai 2022

Siaradodd Cian Siôn mewn gweminar Llywio Polisïau ym Mhrifysgol Caerdydd am yr argyfwng costau byw, gan amlinellu ei ymchwil ar gostau tai, ynni a chwyddiant ar draws dosbarthiad incwm yng Nghymru.

Mae ein cyfres o weminarau Llywio Polisïau yn rhoi cyfle i academyddion Prifysgol Caerdydd drafod amrywiaeth o bynciau’n uniongyrchol â llunwyr polisïau trwy ddefnyddio eu harbenigedd ymchwil i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau.

Cafodd ymchwil Cian Siôn, a gyflwynwyd yn y gweminar, ei drafod wedyn yn y Senedd, gan Sam Rowlands AS yn ystod cwestiynau i'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Fe wnaeth Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) yn Sefydliad Bevan hefyd gymryd rhan yn y digwyddiad.

Mae fideo o'r gweminar ar gael isod.

Rhannu’r stori hon