Ewch i’r prif gynnwys

Hanesydd yn gosod y sylfaen ar gyfer cynhyrchiad hunangofiannol dramodydd o Gymru

10 Mai 2022

Darlithydd o Gaerdydd yn tyrchu i hanes mewn cyflwyniad National Theatre

Mae'r Uwch-ddarlithydd yn Hanes Cymru Fodern, Dr Stephanie Ward, yn tyrchu i hanes y byd y bu i’r dramodydd, Emlyn Williams, ei ail-greu yn ei ddrama led-hunangofiannol The Corn is Green. Mae’r Dr Ward yn gwneud hyn yn rhan o gynhyrchiad y National Theatre.

Yn y cyflwyniad A Short History of Modern Wales , sy'n cyd-fynd â'r cynhyrchiad, a chan olrhain hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, mae’r Dr Ward yn tyrchu i’r hanes ynghylch addysg, dosbarth cymdeithasol a bywydau domestig pobl oedd yn byw mewn cymunedau glofaol Cymraeg eu hiaith yn ystod y cyfnod hwn o newid cymdeithasol enfawr.

Pan fydd Miss Lily Moffat yn cyrraedd cefn gwlad Gogledd Cymru yn The Corn is Green, mae'n benderfynol o helpu glowyr ifanc lleol o’u tlodi, trwy eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae’r athrawes yn sylwi ar dalent yn y Morgan Evans afreolus, ac er gorfod wynebu gwrthwynebiad cymunedol cynyddol, mae'r athrawes ysbrydoledig yn gwneud popeth yn ei gallu i greu dyfodol newydd iddo.

Bu i’r ddrama hynod lwyddiannus gael ei hysbrydoli gan athrawes  ysgol ramadeg Williams ei hun, Sarah Grace Cooke. Bu i Cooke annog Williams trwy gydol ei addysg gynnar, gan ei gefnogi hefyd yn ei ymgais lwyddiannus i sicrhau ysgoloriaeth i Christ Church, Rhydychen.

Yn y cynhyrchiad hwn, mae Nicola Walker yn  ymuno â rhestr o actorion clodwiw sydd wedi chwarae rhan Lily Moffat; bu i Bette Davis a Katharine Hepburn ymddangos yn y cynyrchiadau ffilm mawr o’r ddrama yn 1945 a 1979, yn y drefn honno.

Ysgrifennodd Emlyn Williams, awdur, dramodydd ac actor (1905-1978) a aned yn Sir y Fflint ugeiniau o ddramâu, gan ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau theatr a ffilmiau.

Mae cynhyrchiad y National Theatre o The Corn is Green yn cael ei lwyfannu yn Llundain tan 11 Mehefin (gyda’r cyflwyniad A Short History of Modern Wales, yn digwydd 13 Mai, 18:00 yn Ystafell Cottesloe).

Mae gan yr Uwch-ddarlithydd yn Hanes Cymru, Dr Stephanie Ward ddiddordebau ymchwil penodol yn hanes economaidd a chymdeithasol y Gymru fodern, hanes rhywedd ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif a hanes cymharol a rhanbarthol Prydain.

Rhannu’r stori hon