Ewch i’r prif gynnwys

Deon yr Ysgol Fusnes wedi'i ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

5 Mai 2022

Dean Professor Rachel Ashworth

Mae'r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd ac Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi'i hethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yr academi genedlaethol ar gyfer y celfyddydau a'r gwyddorau.

Mae dod yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth ym maes dysgu. Mae'r Athro Ashworth yn un o 66 o Gymrodyr newydd a etholwyd eleni.

Mae’r rhai sy’n cael eu henwebu’n destun proses asesu drylwyr. Ar ôl cael eu hethol yn Gymrawd, maent yn aelodau gydol oes.

Mae'r Athro Ashworth wedi bod yn Ddeon ac yn Bennaeth Ysgol ers mis Medi 2018. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar newid sefydliadol yn y sector cyhoeddus; craffu ac atebolrwydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus; a chydraddoldeb ac amrywiaeth mewn sefydliadau cyhoeddus.

Anrhydedd a braint o’r mwyaf yw cael ymuno â chydweithwyr uchel eu parch yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru a chael y cyfle i gyfrannu at ymdrechion y Gymdeithas i gefnogi a gwella ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas: “Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae cwmpas yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau amgylcheddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd o’n blaenau.

“Mae gallu'r Gymdeithas i ddod â'r unigolion talentog hyn at ei gilydd yn ein galluogi i gychwyn dadleuon pwysig ynghylch sut y gall Cymru, y DU a’r byd lywio’r dyfroedd cythryblus rydym ynddynt heddiw, gan gynnwys dylanwadu ar ddadleuon o’r fath. Rwy'n falch iawn o’r ffaith bod 50% o'n Cymrodyr newydd yn fenywod.”

Sefydlwyd y Gymdeithas Ddysgedig yn 2010 er mwyn dathlu ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, hyrwyddo dysgu ac ysgolheictod a lledaenu rhagoriaeth mewn ymchwil yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.