Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn sicrhau £2.7m i gynnal clwstwr ymchwil newydd ym maes clefydau niwroddatblygiadol a niwroseiciatrig

19 Ebrill 2022

a graphic showing different scientific symbols with a mouse in the middle

Bydd y grŵp ymchwil newydd yn cael ei arwain gan yr Athro Anthony Isles o'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol.

Mae Rhwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol yn deillio o fuddsoddiad newydd mawr gwerth £22 miliwn ym maes geneteg llygod er mwyn gwneud gwaith modelu clefydau, a fydd yn manteisio ar ragoriaeth ryngwladol y DU ym maes y gwyddorau biofeddygol.

Mae i'r Rhwydwaith saith clwstwr ymchwil sy’n cael eu harwain gan heriau, ac mae’r aelodau wedi’u lleoli ledled y DU. Bydd yr unig glwstwr yng Nghymru wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn buddsoddi ~£2.7m yng nghlwstwr MURIDAE (Dulliau o Ddeall, Cofnodi ac Integreiddio Data mewn Bywyd Cynnar) dan arweiniad yr Athro Anthony Isles yng Nghanolfan y Cyngor ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. Nod y clwstwr yw nodi dulliau newydd o astudio'r cyfnod ôl-enedigol cynnar mewn modelau llygod o glefydau niwroddatblygiadol a niwroseiciatrig.

Yn allweddol i hyn fydd cysylltu newidiadau mewn ymddygiad yn gynnar mewn bywyd â newidiadau yn natblygiad yr ymennydd drwy wneud data monitro ymddygiad mewn cartref-gewyll yn rhan o waith mesur strwythur yr ymennydd a ffisioleg, a hynny i gyd dan arweiniad partneriaid clinigol i sicrhau bod y cyfan yn berthnasol i glefydau dynol.
Yr Athro Anthony Isles Reader, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Canolbwynt y Rhwydwaith fydd Canolfan Mary Lyon yn Harwell. Bydd yn rhannu cyfleusterau arbenigol, adnoddau, data a hyfforddiant gyda holl aelodau eraill y Rhwydwaith, ac mae'n cael £5.5 miliwn i gefnogi'r rôl hon. Bydd y partneriaethau a sefydlwyd gan y Rhwydwaith yn ei gwneud yn bosibl cyfuno ymchwil sylfaenol a chanfyddiadau clinigol er mwyn sicrhau y gallwn ddeall clefydau dynol a sicrhau budd i gleifion yn gyflymach.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, Owen Sansom: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r set gyntaf hon o glystyrau ymchwil sy'n ffurfio Rhwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol a’r cyd-ymdrech i sicrhau bod gwyddoniaeth cyn-glinigol yn effeithiol drwy rannu data, adnoddau ac arbenigedd yn drwyadl.

"Drwy feithrin cysylltiadau rhwng ymchwilwyr sy'n gweithio mewn meysydd mor amrywiol, a thrwy ddatblygu seilwaith rhannu data cynhwysfawr, bydd y Rhwydwaith yn creu platfform sy'n cysylltu ymchwil geneteg llygod â datblygiadau clinigol yn well."

Y saith thema yw:

  1. 1Canser, dan arweiniad yr Athro Karen Blyth yn Sefydliad Beatson Ymchwil Canser y DU/Prifysgol Glasgow a'r Athro Louis Chesler yn y Sefydliad Ymchwil Canser
  2. Anomaleddau Cynhenid, dan arweiniad yr Athro Karen Liu yng Ngholeg y Brenin Llundain
  3. Tagio Degronau, dan arweiniad Dr Andrew Wood yn Uned Geneteg Ddynol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Caeredin
  4. Haem, dan arweiniad Dr David Kent ym Mhrifysgol Caerefrog
  5. Microfiomau, dan arweiniad yr Athro Fiona Powrie ym Mhrifysgol Rhydychen
  6. Mitocondria, dan arweiniad Dr Robert Pitceathly yn Sefydliad Niwroleg Sgwâr y Frenhines Coleg Prifysgol Llundain
  7. MURIDAE (Dulliau o Ddeall, Cofnodi ac Integreiddio Data mewn Bywyd Cynnar), dan arweiniad yr Athro Anthony Isles yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd

Rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Cenedlaethol Geneteg Llygod y Cyngor Ymchwil Feddygol

Rhannu’r stori hon