Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn datgelu cyfansoddiad amlen allanol SARS-CoV-2 am y tro cyntaf

22 Ebrill 2022

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi manylu ar gyfansoddiad moleciwlaidd amlen frasterog allanol SARS-CoV-2 am y tro cyntaf – ac yn dweud y gallai fod yn darged pwysig newydd ar gyfer cyffuriau gwrthfeirysol.

Dangosodd gwaith y tîm ar yr amlen lipid feirysol fod gwahaniaethau sylweddol rhyngddi a philenni celloedd lletyol iach, gan awgrymu y gallai gael ei thargedu mewn ffordd ddethol.

Cyhoeddir yr ymchwil heddiw yn Journal of Lipid Research.

"Er bod brechlynnau a chyffuriau gwrthfeirysol wedi targedu proteinau neu gylch dyblygu SARS-CoV-2, ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r amlen lipid hyd yma," meddai'r Athro Valerie O'Donnell, biocemegydd lipid a chyd-awdur yr astudiaeth o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

"Mae ein hastudiaeth wedi mapio'r elfen feirysol hanfodol hon – yn wir, ychydig iawn o ymchwil a wnaed i unrhyw amlenni lipid feirysol hyd yn hyn. Gallai mynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth hwn olygu bod modd gwneud gwaith targedu therapiwtig dethol sy'n osgoi niweidio’r pilenni lletyol. Rydyn ni hefyd yn amau na fydd mwtaniad y feirws yn effeithio ar y bilen, yn wahanol i broteinau sbigyn, felly byddai'n darged cyson."

Defnyddiodd tîm Caerdydd sbectrometreg màs i greu map manwl o'r amlen y deallir fawr ddim amdani, a chanfu ei bod yn cynnwys ffosffolipidau yn bennaf ond ychydig iawn o golesterol, yn wahanol i bilenni celloedd lletyol. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod potensial i dargedu'r feirws yng ngheudod y geg drwy ddefnyddio therapiwteg heb ddifrod cyfochrog i briod gelloedd y corff.

Yn rhan o'r un astudiaeth, cymerodd cleifion ysbyty â COVID-19 ran mewn treial clinigol bach at ddibenion profi a allai rinsiau geneuol, lle mae cemegau o’r enw syrffactyddion ynddynt yn tarfu ar lipidau, leihau heintusrwydd yn y geg.

Yn y treial, rhoddwyd un o bedwar math gwahanol o rins geneuol i 27 o gleifion ysbyty â COVID-19 oedd wedi cael cadarnhad o hynny mewn profion PCR. Roedd dau o’r rhain yn cynnwys setylpyridiniwm clorid (CPC), un yn cynnwys povidone-ïodin ac un arall yn cynnwys salîn.

Roedd yr un mwyaf effeithiol yn cynnwys setylpyridiniwm clorid (CPC) ac isopropyl myristate – fe wnaeth rins 30 eiliad gyda'r fformiwleiddiad hwn yn achos saith claf ddileu 99.99% o’r feirws yn y poer ar ôl munud, a 99.8% ar ôl 60 munud. Yn achos tri o'r saith claf (tua 40%) ni chanfuwyd unrhyw feirws byw yn y poer ar unrhyw adeg ar ôl y rins cychwynnol.

Chafodd fformiwleiddiadau eraill sy'n cynnwys cyfansoddion megis Povidone-ïodin neu heli, fawr ddim effaith, os o gwbl, ac ni ddangosodd y rins oedd yn cynnwys CPC a benzoate effaith barhaus, gan awgrymu bod fformiwleiddio’n "hollbwysig".

Dyma a ddywedodd yr Athro Richard Stanton, cyd-awdur yr astudiaeth o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae canfyddiadau ein treial clinigol yn awgrymu y gallai'r amlen lipid gael ei thargedu gan fformiwleiddiadau penodol o rinsiau geneuol.

"Mae ein canlyniadau'n awgrymu y gallai rhai cegolchion helpu i gyfyngu ar faint mae pobl yn dod i gysylltiad â COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd – er enghraifft, dinistrio'r feirws am ddigon o amser i allu cynnal archwiliad deintyddol neu eneuol. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i atal a rheoli feirysau anadlol eraill sydd wedi’u hamlennu, fel y ffliw."

Dyma a ddywedodd yr Athro David Thomas, cyd-awdur yr astudiaeth o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae treialon clinigol mwy eu maint ac astudiaethau sy'n seiliedig ar y boblogaeth yn derbyn gwarant i benderfynu a ydy rinsiau geneuol yn cael unrhyw effaith ar drosglwyddiad COVID-19 yn ymarferol.

“Byddem yn annog pobl i ddefnyddio cegolchion yn ofalus bob amser a chadw at ganllawiau’r gwneuthurwyr.”

Mae’n bwysig nodi, meddai'r ymchwilwyr, na all cegolch dargedu unrhyw feirws yn y llwybr anadlu isaf, ac mae'n aneglur o hyd a yw feirws sy'n cael ei drosglwyddo i bobl eraill yn codi o'r llwybr anadlu uchaf neu isaf.

Ariannwyd yr ymchwil gan UKRI drwy Gonsortiwm Imiwnoleg y DU ar gyfer y Coronafeirws, Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol, Rhaglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Wellcome.

Cafodd yr astudiaeth glinigol ei hariannu'n rhannol gan Venture Life Group plc, gwneuthurwyr Dentyl Dual Action (CPC ac isopropyl myristate) ac SCD Ultra (CPC a benzoate), ond nid oedd gan y cwmni fewnbwn o ran dylunio, dadansoddi data na drafftio'r papur ymchwil. Videne (povidone-ïodin) a Normasol (salîn) oedd y ddau frand arall.

Rhannu’r stori hon