Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad arloesol mewn ymchwil i fôn-gelloedd y gwaed

19 Ebrill 2022

Red blood cells

Mae ymchwil o Brifysgol Caerdydd wedi nodi'r boblogaeth buraf o fôn-gelloedd y gwaed hyd yma. Bydd hyn yn hollbwysig yn nyfodol meddygaeth trallwyso gwaed, clefyd cardiofasgwlaidd a thriniaeth lewcemia.

Mae grŵp Dr Fernando Afonso yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr yn Sefydliad Francis Crick, wedi nodi grŵp o gelloedd gwaed cyntefig prin ac wedi profi’n wyddonol mai’r rhain yw’r boblogaeth buraf o fôn-gelloedd y gwaed a ddisgrifiwyd hyd yma.

“Mae’n rhaid i’r corff ddisodli celloedd gwaed yn gyson, er mwyn i waed gynnal ei holl swyddogaethau, gan gynnal ein holl organau. Mewn gwirionedd, gwaed yw un o feinweoedd mwyaf adfywiol y corff, gyda'n mêr esgyrn yn cynhyrchu un triliwn o gelloedd gwaed newydd bob dydd.

“Mae’r rhain i gyd yn dod o nifer fach o fôn-gelloedd y gwaed, sydd â’r gallu i gopïo eu hunain a datblygu i bob math o gelloedd gwaed, gan gynnwys celloedd gwaed gwyn, celloedd gwaed coch, a phlatennau.

“Er mwyn deall sut mae gwaed dynol yn gweithio, yn ogystal â’r afiechydon sy’n effeithio ar waed, mae angen i ni ddeall bôn-gelloedd gwaed yn llawn,” meddai Dr Fernando Afonso, Prifysgol Caerdydd.

Mae'r ymchwilwyr wedi ynysu’r ffurf buraf o fôn-gelloedd y gwaed am y tro cyntaf. Bydd yr ymchwil hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer ymchwil i glefydau’r gwaed, gan gynnwys ymchwil i ganserau’r gwaed.

“Credwn y gallai’r darganfyddiad hwn fod yn ddatblygiad arloesol ym maes haematoleg gan y bydd yn ein helpu i ddeall ffurfiant ac adfywiad gwaed dynol yn well.

“Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer trawsblannu a meddyginiaeth trallwyso gwaed, heneiddio celloedd gwaed a’r system imiwnedd, clefyd cardiofasgwlaidd, a tharddiad rhai mathau o lewcemia,” ychwanegodd Dr Fernando Afonso.

Single cell analyses identify a highly regenerative and homogenous human CD34+ hematopoietic stem cell population

Rhannu’r stori hon