Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect ffotoneg cwantwm

19 Ebrill 2022

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymuno â phrosiect sy'n ceisio creu llyfrgell o gydrannau ffotoneg cwantwm safonedig a all gyflymu’r broses fasgynhyrchu.

Bydd tîm o’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gweithio ar y prosiect gwerth £470k, sy’n cael ei arwain gan Wave Photonics a’i ariannu gan Innovate UK.

Byddant yn gweithio mewn partneriaeth â Chatapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd, gan gynnwys KETS, er mwyn ymchwilio i’r defnydd o ddulliau dylunio cyfrifiadurol i ddatblygu llyfrgell o ddyluniadau cydrannau ar gyfer ffotoneg cwantwm integredig.

Mae ffotoneg cwantwm integredig yn dechnoleg y gellir ei hehangu sy’n cael ei defnyddio ym meysydd cyfrifiadura cwantwm, synhwyro, cynhyrchu haprifau a chyfathrebu. Mae’r sglodion ffotonig bach yn gallu trosglwyddo signalau electronig ar gyflymder golau.

Drwy harneisio ymddygiad gronynnau unigol, mae technoleg cwantwm yn cynnig ystod o welliannau i'r dyfodol mewn meysydd fel cyfrifiadura a synhwyro o bell.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddylunwyr dreulio amser yn datblygu eu cydrannau perfformiad uchel eu hunain, gan gynnwys gwneud ymdrech i wneud hynny.

Yn rhan o’r prosiect, bydd dull cyfrifiadurol yn cael ei ddefnyddio i ddylunio llyfrgell o gydrannau y gellir eu cynhyrchu mewn ffyrdd gwahanol, gan alluogi’r gwaith o ddatblygu ac uwchraddio technolegau cwantwm.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn datblygu gweithdrefn brofi a mesuriadau perfformio er mwyn galluogi meddalwedd Wave Photonics i addasu'r dyluniadau a sicrhau eu bod mor gadarn ac effeithlon â phosibl.

Dywedodd yr Athro Anthony Bennett yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: “Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r prosiect hwn a chydweithio i gyflwyno technoleg newydd ym maes ffotoneg cwantwm. Drwy weithio gyda chwmnïau fel Wave, byddwn yn gwireddu potensial llawn y dechnoleg.”

Bydd Wave Photonics yn datblygu'r feddalwedd a’r dyluniadau cydrannau ar gyfer y pecyn dylunio prosesau.

Dywedodd James Lee, Prif Swyddog Gweithredol Wave Photonics: “Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i wneud y gorau o gefndir y tîm ym meysydd ffotoneg cwantwm ac optimeiddio cyfrifiadurol, nid yn unig i ddatblygu pecyn dylunio prosesau yn y ffowndri darged ond hefyd i ddatblygu'r offer craidd i ehangu i brosesau cynhyrchu eraill mewn ffordd effeithlon.”

Bydd Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cefnogi’r prosiect drwy ddatblygu rig profi ar gyfer ffynonellau ffotonau wedi’u cymhathu a mynd ati i nodweddu’r ffynonellau a ddyluniwyd drwy gydol y prosiect hwn.

Bydd KETS, aelod o’r consortiwm a chwmni sy’n datblygu systemau cyfathrebu cwantwm-diogel ar sglodion, yn cyfrannu at y prosiect fel defnyddiwr terfynol posibl pecyn dylunio prosesau.

Rhannu’r stori hon