Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Brifysgol Caerdydd wedi'i ddewis ar gyfer cynllun Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr

5 Ebrill 2022

Jim Scown

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith y garfan ddiweddaraf o’r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr.

Bob blwyddyn, mae BBC Radio 3 a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) yn chwilio am academyddion ledled y wlad sydd â syniadau newydd a fydd yn cyd-fynd â chynulleidfa ehangach. Mae'r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr hyn yn cynrychioli rhai o'r ysgolheigion disgleiriaf yn y wlad ac mae gan eu hymchwil y potensial i ailddiffinio ein dealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau.

Un o'r deg a ddewiswyd eleni yw Dr Jim Scown, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar briddoedd, eu bywydau amrywiol a'r straeon a'r syniadau sy’n sicrhau eu lle mewn hanes a diwylliant dynol. Mae'n ysgrifennu llyfr ar bridd, pobl a thir, gan ddod â gwyddoniaeth, hanes ac athroniaeth ynghyd â safbwyntiau pobl sy'n gweithio gyda phriddoedd heddiw.

Cwblhaodd Jim, sy'n gweithio i'r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad (FFCC), ymchwil ôl-ddoethurol yn y Brifysgol gan edrych ar sut mae coronafeirws a'r pandemig yn dylanwadu ar y ffyrdd yr ydym yn dychmygu'r dyfodol.

Ac yntau’n cyd-arwain y rhaglen Newid Ffermio, mae'n helpu i arwain gwaith y Comisiwn ar ddyfodol cynaliadwy a chyfiawn i ffermwyr ar draws pedair gwlad y DU.

Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o gael fy enwi’n un o’r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr. Yn fy marn i, mae’r anghysondeb mewn sut mae pobl yn meddwl am briddoedd – yn sanctaidd ond yn gyffredin, yn fudr ond yn faethlon, yn ddifywyd ond yn fyw – yn rhoi syniad diddorol o'r berthynas rhwng pobl a gweddill natur. Rwy'n edrych ymlaen at rannu gwybodaeth am yr ymchwil hon ar BBC Radio 3 dros y flwyddyn nesaf."

Cyhoeddwyd enwau’r academyddion a ddewiswyd ar gyfer cynllun 2022 yn rhan o bennod Free Thinking arbennig ar BBC Radio 3, a gyflwynwyd gan Laurence Scott. Mae’r bennod, sy’n rhoi sylw i bob un o’r deg academydd, bellach ar gael i wrando arni ar alw ar BBC Sounds ac fel podlediad Arts & Ideas.

Bydd hyfforddiant a chymorth yn cael eu rhoi i’r grŵp, yn ogystal â'r cyfle i wneud rhaglenni ar gyfer y sianel sy’n cyfleu eu hymchwil. Mae academyddion blaenorol y cynllun wedi dod yn ffigurau cyhoeddus amlwg yn eu meysydd, yn ogystal â bod yn wyneb i raglenni dogfen mawr a chyfresi teledu a ffigurau rheolaidd mewn dadleuon cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau: "Rydym yn falch iawn o ymuno â’r BBC unwaith eto i gefnogi cynllun y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr – un o'r prif ffyrdd y mae’r Cyngor yn ysbrydoli ymchwilwyr ym meysydd y celfyddydau a'r dyniaethau ledled y DU i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.

"O gipolwg diddorol ar bethau sy’n amrywio o gelf, llenyddiaeth a hanes i’r problemau mwyaf heriol rydym yn eu hwynebu heddiw, mae ymchwil o’r fath yn hollbwysig ac yn drawiadol.”

Mae Dr Emily Cock a Susan Greaney ymhlith academyddion blaenorol y cynllun o Brifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon