Ewch i’r prif gynnwys

Agor Pafiliwn Grange – cadwch y dyddiad!

5 Ebrill 2022

Grange Gardens
Grange Gardens

Mae Pafiliwn Grange yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn, 21 Mai 2022 rhwng 10:00 a 17:00 yn sgîl gwaith gwerth £1.8 miliwn i ailddatblygu cyn-bafiliwn bowlio.

Ac yntau bellach yn destun prydles Trosglwyddo Asedau Cymunedol 99 mlynedd o hyd gan Gyngor Caerdydd, mae Pafiliwn Grange yn deillio o gydweithio a ddechreuodd ddeng mlynedd yn ôl rhwng Prosiect Pafiliwn Grange, Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a Gweithredu Cymunedol Grangetown.  Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Pafiliwn Grange wedi’i sefydlu erbyn hyn. Mae 60% o’r aelodau’n drigolion lleol, ac mae 40% o’r aelodau’n sefydliadau partner sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cymdeithas Tai Taf ac RSPB Cymru.

Grange Pavilion
Grange Pavilion

Agorodd Pafiliwn Grange yn 2020 o dan gyfyngiadau COVID-19, a hynny drwy ddangos ffilm agor ar-lein i ddathlu'r hyn y mae Pafiliwn Grange yn ei olygu i'r rhai a'i ddatblygodd a’r rhai sy’n ei ddefnyddio. Mae Pafiliwn Grange bellach yn profi ei werth o ran creu ‘cyfleuster cymunedol cyfeillgar a bywiog yng nghanol Grangetown, lle gall pobl o bob cefndir gysylltu a chael eu croesawu’ (Datganiad Cenhadaeth Prosiect Pafiliwn Grange 2016). Pafiliwn Grange yw cartref The Hideout (caffi menter gymdeithasol), Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a gweithgareddau rheolaidd, gan gynnwys Marchnad Byd Grangetown, grwpiau addysg a grwpiau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant, dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, dosbarthiadau ffitrwydd, grwpiau creadigol, grŵp garddio, wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl a gweithgareddau addysgu ac ymchwil lluosog i ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 21 Mai 2022 rhwng 10:00 a 17:00 am ddiwrnod o gerddoriaeth, dawns, chwaraeon, gair llafar, gweithgareddau a stondinau partneriaid, wrth i ni ddathlu gyda phawb sydd wedi cefnogi Pafiliwn Grange dros y degawd diwethaf.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch fwy am ddigwyddiadau sydd ar ddod, archebion ystafell a newyddion o Bafiliwn newydd y Grange