Ewch i’r prif gynnwys

Trafod gwaith ôl-osod tai gyda’r maes addysg uwch

4 Ebrill 2022

Whole house retrofit, Pencoed College, pre-work.
Whole house retrofit, Pencoed College, pre-work.

Mae Coleg Penybont wedi sicrhau cyllid cynnal a chadw ac offer gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i gyrraedd sero-net o ran carbon. Bydd y Coleg yn defnyddio’r cyllid i droi tŷ domestig â thair ystafell wely ar ei gampws ym Mhencoed yn dŷ arddangos carbon isel.

Cyfleuster addysgu i fyfyrwyr y Coleg fydd y tŷ, lle bydd sgiliau’n cael eu datblygu ym meysydd peirianneg drydanol, peirianneg fecanyddol ac adeiladu. Bydd yn dod â nodau cynaliadwyedd cwricwlwm y Coleg yn fyw ac yn ysbrydoli rhanddeiliaid eraill i sicrhau dyfodol carbon isel.

Aeth Coleg Penybont ati i gysylltu â’r Tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i elwa ar eu harbenigedd ym maes ôl-osod tai yng Nghymru i wireddu ei weledigaeth. Mae’r tîm hwn bellach yn rhan o'r tîm sy’n gwneud y gwaith o gynllunio, modelu, dylunio ac ôl-osod y tŷ arddangos, gan gynnwys y gwaith o’i fonitro ar ôl ei ôl-osod.

Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl arddangos y dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y tîm dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd y tŷ a'r deunydd dysgu cysylltiedig ar gael i’w defnyddio gan fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch, awdurdodau lleol, llunwyr polisïau a'r sector adeiladu ac yn rhoi profiad dysgu pendant i ysbrydoli gwaith ôl-osod carbon isel, ynni isel yn y dyfodol. Bydd yn galluogi’r tîm i sicrhau bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer sector pwysig iawn a fydd yn allweddol i helpu i sicrhau stoc adeiladu sero-net ar gyfer y dyfodol.  Bydd y tŷ’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau byw'n annibynnol.

Mae prosiect LCBE yn rhan o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, a arweinir gan Brifysgol Abertawe a'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac EPSRC.

Rhannu’r stori hon