Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr biowyddoniaeth yn cynnal "digwyddiad y flwyddyn"

5 Ebrill 2022

Biosciences Cultural Event

Roedd yn gyfle i'n myfyrwyr ddisgleirio, a disgleirio wnaethon nhw.

Roedd y Digwyddiad Diwylliannol bywiog hwn, a oedd yn syniad gan dri myfyriwr israddedig, yn dathlu ystod eang diwylliannau ein myfyrwyr rhyngwladol a chartref a hynny gyda stondinau, perfformiadau a bwyd.

Wedi'i drefnu gan fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf Lyla Khan, Rohit Kamath a Zaid Maniar, gyda chymorth cydlynydd Blwyddyn 1 Dr Isaac Myers, bu i’r rhai a oedd yn bresennol fwynhau barddoniaeth, cân, dawns, stondinau ac iddynt thema benodol, bwyd o wledydd gan gynnwys Jamaica, Lloegr, Zimbabwe, India, Pacistan, Venezuela, Mecsico, Tsieina, UDA, Kazakhstan, De Korea a Chymru, yn ogystal â chwis diwylliannol.

Biosciences Cultural Event video

Dywedodd Lyla Khan, myfyriwr Biofeddygaeth, ac un o'r prif drefnwyr: "Roeddwn i eisiau cynnal y digwyddiad oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod aelodau ein cymuned, yn deall a gwybod am ein gilydd gan ddathlu pa mor unigryw ydyn ni bob un. Helpodd y digwyddiad hwn i ni ddod at ein gilydd, ac i ddathlu diwylliannau ein gilydd, sef rhan harddaf y digwyddiad!

"Amrywiaeth yw'r un gwir beth sydd gennym i gyd yn gyffredin felly gadewch i ni ei ddathlu bob dydd!"

Dywedodd Rohit Kamath, cyd-drefnydd a myfyriwr, sydd ym mlwyddyn gyntaf gradd Niwrowyddoniaeth: “Roedd y Digwyddiad Diwylliannol yn ein hatgoffa o ba mor eang yw'r byd, a pha mor syml yw dysgu am rywbeth newydd a gadael yn llawn gwybodaeth. Rydyn ni i gyd yr un rhywogaeth, yn dehongli'r byd yn ein ffyrdd ein hunain, ac fe wnaeth y digwyddiad ein helpu i ddeall hyn, gan ddod â ni gam yn nes at fyd mwy cysylltiedig a heddychlon. Hoffwn hefyd bwysleisio'r gefnogaeth a roddodd Ysgol y Biowyddorau inni redeg hyn.”

Dywedodd Dr Hefin Jones, Cyfarwyddwr Addysg Israddedig, a rannodd hefyd ei gerdd ei hun yn y digwyddiad: "Rwyf yn falch o'n myfyrwyr a'u llwyddiannau bob amser, a heno maent wedi fy ngwneud i’n hynod, hynod falch drwy gynnal uchafbwynt y flwyddyn academaidd hyd yn hyn – cyfle i ddathlu, ein hamrywiaeth, diwylliant, iaith a'r hyn sy'n ein gwneud yn un."

Roedd Dr Sarah Hall, Arweinydd Profiad Myfyrwyr hefyd yn bresennol, a nododd ei bod yn teimlo'n "falch o fod wedi treulio noson yn dathlu cymaint o ddiwylliannau sy'n rhan o gymuned yr Ysgol - roedd hi'n galonogol gweld cymaint o'n myfyrwyr rhyngwladol yn llawn hyder a balchder yn y digwyddiad."

Dywedodd Yr Athro Jim Murray, Pennaeth yr Ysgol "Rwy'n falch iawn o glywed am lwyddiant y digwyddiad hwn. Diolch i'r holl fyfyrwyr fu’n gyfrifol am sicrhau bod y cyfan yn digwydd ar y noson, ac i'r holl staff a helpodd gyda’r trefniadau o flaen llaw."

Rhannu’r stori hon