Ewch i’r prif gynnwys

RedKnight yn ymuno â sbarc|spark

22 Mawrth 2022

Mae'r arbenigwyr grantiau a chyllid RedKnight wedi ymuno â theulu sbarc|spark Prifysgol Caerdydd.

Mae RedKnight yn rhoi cymorth arbenigol i sefydliadau sy'n gwneud cais am grantiau arloesi a chyllid. Eu nod yw symleiddio’r broses gymhleth o wneud cais, hyd eithaf eu gallu.

Y cwmni hwn ynghyd â Bipsync, Nesta ac IWA yw’r partneriaid allanol cyntaf i fod yn breswylwyr yn yr adeilad hwn sydd newydd ei agor.

Mae RedKnight yn rhan o Arloesedd Caerdydd@sbarc – canolfan y Brifysgol ar gyfer partneriaethau arloesol.

Ers 2015, mae RedKnight wedi sicrhau dros £10 miliwn o arian grant i’n cleientiaid ddatblygu eu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau arloesol.

Dywedodd Dayne Hodgson, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr, RedKnight: “Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn adleoli i’r cyfleuster newydd o’r radd flaenaf hwn ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Bydd yr adleoliad yn gosod RedKnight wrth galon yr ecosystem arloesi leol ac yn darparu cyfleoedd gwych i gwrdd a chydweithio â busnesau newydd arloesol, busnesau bach a chanolig a chwmnïau sy’n deillio o’r byd academaidd.

“Rydym yn ddiolchgar i fwrdd sbarc am dderbyn ein cais i fod yn rhan o’u gweledigaeth ac yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â phobl sydd o’r un anian â ni, dros y blynyddoedd i ddod.”

Ag ystafelloedd pwrpasol Cardiff Innovations@sbarc yn mesur, at ei gilydd, 17,500 troedfedd sgwâr dros bedwar llawr, bydd y rhain yn cynnwys swyddfeydd rhwng 226 a 1,163 troedfedd sgwâr y gellir eu rhentu, mannau cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf, labordai gwlyb, a mannau arddangos/cyflwyno ar y cyd.

Croesawyd RedKnight i’r ganolfan gan Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd Caerdydd Innovations@sbarc.

“Ein gweledigaeth yw datblygu cymuned-sy’n-tyfu, o fusnesau entrepreneuraidd, busnesau newydd a chwmnïau deillio a fydd yn helpu i sbarduno economi Cymru. Mae nodau cwmni RedKnight – sef helpu sefydliadau i gael datrysiadau syml i’r elfennau cymhleth hynny sydd yn rhan o fyd grantiau a chyllid – yn cydblethu â’n nod ninnau o gael sefydliadau sydd am fanteisio ar wobrau ymchwil i dyfu eu partneriaethau a dod â ffyniant i Gymru, i ymuno â ni.”

Creadigrwydd, entrepreneuriaeth ac arloesi yw hanfod sbarc|spark. Mae’n gartref i dros 400 o ymchwilwyr, o 12 grŵp arbenigol, ym maes y gwyddorau cymdeithasol, a chyda’i gilydd, nhw yw SPARC – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.

Wedi’i ddylunio gan y penseiri blaenllaw Hawkins\Brown, sbarc|spark yw lle bydd ymchwilwyr dawnus a staff proffesiynol yn gweithio gyda busnesau a chymdeithas i greu, profi a meithrin mentrau newydd. Bydd gan y ganolfan fywiog hon gysylltiadau rhyngwladol, a bydd yn meithrin partneriaethau rhwng entrepreneuriaid, arweinwyr busnes, cynghorwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon