Ewch i’r prif gynnwys

Sut i fod yn Bensaer Gwych: Pam mae Cynwysoldeb yn Bwysig – sgwrs gyda Marsha Ramroop a Marié Nevin

21 Mawrth 2022

How to be a great architect: Why inclusivity matters, a conversation
How to be a great architect: Why inclusivity matters, a conversation

Cadeiriodd yr Athro Mhairi McVicar, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru (YPC) sgwrs ar Sut i fod yn Bensaer Gwych: Pam mae Cynwysoldeb yn Bwysig gyda Marsha Ramroop, Cyfarwyddwr Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a Marié Nevin, Pensaer yn Stride Treglown a myfyriwr graddedig o YPC.

Cynhaliwyd y sgwrs yn y Man Arddangos newydd ei adnewyddu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a dechreuodd gyda Marsha a Marié yn cymryd troeon i gyflwyno cythrudd, ac yna sgwrs ar ffyrdd o sicrhau newid cynhwysol mewn pensaernïaeth, Deallusrwydd Diwylliannol (DD), a rôl ymgysylltu a mentora.

Dechreuodd Mhairi'r sesiwn drwy nodi "na all ein gwaith fel penseiri byth fod yn niwtral... wrth ddysgu, addysgu, ymchwilio ac ymgysylltu â phensaernïaeth gallwn ddeall bod cynhwysiant yn effeithio ar bopeth a wnawn".

Gosododd Marsha gythrudd i'r gynulleidfa, YPC, a'r proffesiwn pensaernïol fyfyrio yn ei gylch o safbwynt cymuned gyfan – gan gwestiynu pam mae angen i ni feddwl am gynhwysiant ac amrywiaeth mewn pensaernïaeth. "Ni all pensaernïaeth byth fod yn wych os nad ydym yn ystyried cynwysoldeb," dechreuodd Marsha, gan ofyn "a ydym yn cynnwys lleisiau pob cymuned, nid y lleisiau uchaf yn unig'?" Fe’n hatgoffwyd gan Marsha fod "pobl ar gael sy'n gallu dod â gwychder i'r proffesiwn hwn, ond nid ydym yn eu gadael i mewn ... Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn bwysig gan nad yw'r rhai sy'n dod i mewn bob amser yn cael eu cefnogi a'r cyfle i leisio eu barn yn ddigon clir." Gosodwyd yr her i bob un ohonom i fynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac addysg bensaernïol. "Mae diwylliant unrhyw sefydliad," meddai Marsha, 'yn cael ei lunio gan yr ymddygiad gwaethaf y mae'r arweinydd yn barod i'w oddef' ac, i'r gwrthwyneb, "gall diwylliant unrhyw sefydliad gael ei lunio gan yr ymddygiadau gorau y mae ein harweinwyr yn barod i'w dangos." Heriwyd y gynulleidfa i ystyried yr hyn sy'n atal pob un ohonom rhag defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a'n galluoedd presennol i fod yn gynhwysol wrth hyrwyddo newid mewn pensaernïaeth.

Gosododd Marié gythrudd yng nghyd-destun ymarfer pensaernïol proffesiynol, gan ddweud bod "gennym gyfrifoldeb i gael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas drwy lunio mannau o amgylch pobl – mae’n allweddol deall beth mae'n ei olygu i ddylunio'n gynhwysol. Felly beth yw dylunio cynhwysol?" Awgrymodd Marié fod pobl wrth wraidd dylunio cynhwysol, os "ydym i greu mannau sy'n ddiogel ac yn hygyrch i bawb" a phwysleisiodd yr angen i ystyried rhwystrau yn ystod pob cam o'r broses ddylunio a allai wneud i rai grwpiau deimlo'n anghyfforddus neu wedi'u hallgáu, gan ymateb i'r rhain drwy ddechrau deialogau â chymunedau a defnyddwyr, trin deialog â meddwl agored a chroesawu adborth. Trafododd Marié ddwy astudiaeth achos – yr Academi Fyddar yn Exmouth gan ddefnyddio cyfieithiad iaith arwyddion mewn ymgynghoriadau drwy gydol y broses ddylunio, a gweithdy gweithredu hinsawdd Pafiliwn Grange – gan atgoffa'r gynulleidfa "nad oes angen i chi aros i brosiect ymgysylltu â'r gymuned ddod atoch chi, gallwch bob amser chwilio am ffyrdd y gallwch gael effaith gadarnhaol yn lleol."

Daeth y digwyddiad i ben gyda sgwrs rhwng y ddau siaradwr a'r gynulleidfa, gan drafod effaith a rhwystrau arferion diwylliannol hanesyddol a chyfoes o fewn addysg bensaernïol a'r proffesiwn, gan gynnwys dulliau cadarnhaol o adolygu a rhoi adborth, heriau newid seilwaith sy'n meithrin rhagfarn, hyrwyddo gwerth cymdeithasol, wynebu anghysur a derbyn canlyniadau rhagfarn o ran creu effaith negyddol, ni waeth beth y bo'r bwriad.

Gan fyfyrio ar y drafodaeth, dywedodd Mhairi:

"Roedd yn anrhydedd croesawu Marsha a Marié i Ysgol Bensaernïaeth Cymru i drafod camau gweithredu hirdymor o ran cynwysoldeb mewn pensaernïaeth, ac i drafod yr hyn sydd eisoes yn digwydd yn ein Hysgol. Hoffem ddiolch i'r ddau ohonynt am ddod i'r cyfarfod heddiw a gobeithiwn eu croesawu eto'n fuan i rannu canllawiau a chydweithio parhaus ar gyfer y gwaith brys ac angenrheidiol hwn."

Cefnogwyd y sgwrs gan y gyfres Trafod Atal Hiliaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, ac mae recordiadau o ddigwyddiadau cynharach i'w gweld ar y dudalen we

Gwylio’r sgwrs

Rhannu’r stori hon