Ewch i’r prif gynnwys

Lledu'r gair ynghylch y manteision i’n hiechyd yn sgîl nofio yn y gwyllt

22 Mawrth 2022

Mae prosiect newydd i annog mwy o bobl i elwa o’r manteision i’w hiechyd yn sgîl nofio yn y gwyllt wedi cael ei lansio.

BBydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Phrifysgol Nottingham a nifer o bartneriaid eraill i greu trosolwg cynhwysfawr a phecyn cymorth ar y manteision i’n hiechyd meddwl a chorfforol yn sgîl nofio yn y gwyllt yn ogystal â chreu canllawiau ar y risgiau sy'n gysylltiedig â safon y dŵr a diogelwch lleoedd penodol yn y DU lle bydd pobl yn nofio.

Mae nofio yn y gwyllt wedi mynd yn boblogaidd yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, ac mae'r manteision i’n hiechyd corfforol a meddyliol bellach wedi'u profi’n helaeth. Mae astudiaethau niferus wedi dangos y gall y math hwn o nofio mewn dŵr oer mewn amgylchfyd naturiol roi hwb i’n ffitrwydd, ond ar ben hynny mae’n gallu gwella ein hwyliau yn ddirfawr yn ogystal â lleihau tensiwn, negyddoldeb ac iselder.

Fodd bynnag, mae’r wybodaeth am 'fannau glas' naturiol megis afonydd, llynnoedd neu'r môr, a sut i ddod o hyd iddyn nhw, yn tueddu i aros yn lleol. Nid pawb sy’n gwybod am y rhain ac mae’n bosibl na fydd cymunedau ehangach sy’n byw mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig fel ei gilydd yn gwybod amdanyn nhw.

Wrth wraidd yr ymchwil bydd arolwg a chyfweliadau gyda grwpiau cyfredol o nofwyr yn y gwyllt yn ogystal â darpar nofwyr, a’r diben yw astudio agweddau ar fanteision y gweithgaredd hwn a faint mae pobl yn gwybod am y rhain.

Dyma a ddywedodd Dr Dawn Knight, ieithydd cymhwysol yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Er bod y manteision posibl i’n hiechyd yn sgîl nofio yn y gwyllt yn cael eu cydnabod yn gyffredinol, nid oes yr un dull sy’n cydlynu hyn, ac sy’n rhoi gwybod amdano, i bob aelod o'r gymuned. Nod y prosiect hwn yw llenwi'r bwlch hwn drwy ddod ag ystod o arbenigwyr ynghyd ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau a'r gwyddorau iechyd ac ecolegol i helpu i greu negeseuon iechyd cyhoeddus sy'n fwy pwrpasol ac ar sail gwybodaeth am fanteision iechyd, agweddau ar ddiogelwch a hanes y mannau glas lle bydd pobl yn nofio.”

Bydd y tîm hefyd yn ymchwilio i hanes rhai o'r lleoliadau penodol lle bydd pobl yn nofio yn y gwyllt ac y soniwyd amdanyn nhw yn yr arolwg. Byddan nhw’n datblygu cynnwys testunol, graffeg a fideo i ddangos sut y gall nofwyr wneud penderfyniadau cytbwys am ddiogelwch amodau’r dŵr a natur wenwynig neu halogiad posibl dyfroedd agored.

Blaenoriaethau allweddol eraill y prosiect yw creu cynllun cynhwysfawr i gynyddu nifer y bobl sy’n nofio yn y gwyllt fel bod modd sicrhau eu hiechyd a’u lles. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r ymwneud rhwng asiantaethau iechyd cyhoeddus cenedlaethol, adrannau iechyd cyhoeddus awdurdodau lleol, asiantaethau datblygu chwaraeon cenedlaethol a chyrff y GIG. Bydd canlyniadau'r ymchwil yn hysbysu adroddiadau briffio polisi newydd i helpu o ran comisiynu a hyrwyddo nofio yn y gwyllt ar y lefel leol a chenedlaethol.

Dyma a ddywedodd Svenja Adolphs, Athro Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham: “Mae nofio yn y gwyllt a hamdden gofod glas yn cynnig y posibilrwydd y bydd cryn nifer o fanteision corfforol, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio dull creadigol ac amlddisgyblaethol i greu negeseuon cyhoeddus dilys fel y bydd modd sicrhau'r manteision hyn mewn ffordd deg a phriodol, gan ddefnyddio mannau glas yn asedau cymunedol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd.”

Dyma a ddywedodd y cyd-ymchwilydd rhyngwladol, yr Athro Suzanne McGowan, o Sefydliad Ecoleg yr Iseldiroedd: “Gall manteision iechyd mannau glas gael eu peryglu oherwydd safon gwael y dŵr. Mae organebau microsgopig mewn dyfroedd halogedig yn gallu achosi salwch ymhlith nofwyr, ond nid ydyn ni’n gwybod i ba raddau y mae defnyddwyr mannau glas yn gallu asesu’r risgiau oherwydd safon y dŵr cyn iddyn nhw benderfynu nofio. Ein nod yw mesur pa mor wybodus yw nofwyr am y risgiau oherwydd safon y dŵr a grymuso defnyddwyr mannau glas i wneud penderfyniadau da ynghylch pryd a ble maen nhw’n nofio.”

Dyma a ddywedodd Jane Nickerson, Prif Swyddog Gweithredol Swim England: “Mae Swim England yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect hwn sy'n cyd-fynd â nifer o'n nodau strategol craidd, sef sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn cael nofio yn ogystal â chynyddu amlygrwydd chwaraeon dŵr. Bydd yr ymchwil hon yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r rhwystrau rhag cymryd rhan ac yn ymchwilio i’r ffyrdd y gellir mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy nofio mewn dŵr agored, gan gynnwys sut y gallem ddatblygu cynnwys sy'n apelio go iawn ac sydd yn ei dro yn creu cenedl hapusach, iachach a mwy llwyddiannus, a hynny drwy nofio.”

Dywedodd Danielle Obe, cadeirydd a chyd-sylfaenydd y Black Swimming Association: "Prif nod y BSA yw amrywio byd dyfrol, ac mae hynny'n cynnwys ein mannau dŵr agored gwych. Mae rhywfaint o stigma mewn cymunedau Du ac Asiaidd sy'n gysylltiedig â thrafod pryderon iechyd meddwl. Gyda lwc, gall ein gwaith o annog mwy o gynhwysiant yn y maes hwn helpu i chwalu'r rhwystrau hyn a normaleiddio'r trafodaethau hyn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni gynnig gwybodaeth sydd ar gael i bawb am fannau nofio gwyllt, a sut i gael mynediad diogel atynt, fel bod pob cymuned yn gallu cael profiad gwych o'r manteision corfforol a meddyliol cydnabyddedig sy'n deillio o fynd i mewn i'r dŵr agored."

Ariennir prosiect 'Nofio Gwyllt a Mannau Glas: Paratoi gwybodaeth a phartneriaethau rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar raddfa eang’ gan AHRC/MRC/NERC

Rhannu’r stori hon