Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn defnyddio brechiad i drin COVID-19 yn llwyddiannus, am y tro cyntaf

21 Mawrth 2022

Mae doctoriaid wedi defnyddio’r brechiad i drin claf â COVID-19, a hynny’n llwyddiannus; ystyrir hyn i fod y tro cyntaf i’r brechiad gael ei ddefnyddio ar gyfer therapi yn hytrach nag atal.

Profodd Ian Lester, 37, sy’n optegydd dosbarthu o Bontypridd, a chanddo imiwnoddiffygiant genetig prin, yn bositif ar gyfer COVID-19 am saith mis a hanner wedi iddo ddal y feirws.

Cafwyd gwared â’r feirws yn llwyr o’i gorff, yn y pen draw, wedi i glinigwyr o Ganolfan Imiwnoddiffygiant Cymru ddefnyddio dau ddos o’r brechiad Pfizer i’w drin, a bu i wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd fonitro ymateb ei system imiwnedd.

Mae hyn yn awgrymu fod y brechiad wedi sbarduno system imiwnedd Mr Lester i gael gwared ar y feirws, a’r gobaith nawr yw y gall y dull hwn gael ei ddefnyddio i drin cleifion eraill sydd ag imiwnedd gwan.

“Fe aethon nhw’r tu hwnt i bob disgwyliad wrth ofalu amdana i. Fe fyddai’n ddiolchgar am byth i’r doctoriaid, nyrsys a’r gwyddonwyr fu’n fy helpu,” meddai Mr Lester; mae ei achos yn ymddangos yng Nghyfnodolyn y Clinical Immunology.

Mae Syndrom Wisckott-Aldrich ar Mr Lester, cyflwr prin sy’n achosi imiwnoddiffygiant, felly mae ymateb ei gorff i haint yn wannach na’r hyn sy’n arferol. Pan ddaliodd Mr Lester COVID-19 ym mis Rhagfyr 2020, nid oedd yn gallu ymladd y feirws, a bu i’r feirws gael ei ganfod yn ei gorff am o leiaf 218 niwrnod. Mae hyn yn wahanol i COVID hir, lle gall effeithiau’r haint aros, hyd yn oed pan fydd y corff wedi cael gwared ar y feirws.

Yn ystod yr amser hwn, roedd yn dioddef symptomau ymdonnol o dyndra yn y frest, insomnia, cur pen, diffyg canolbwyntio a blinder eithafol, ac roedd yn rhaid iddo hunanynysu am gyfnodau hir o’r amser hwn.

Dywedodd yr Athro Stephen Jolles, Arweinydd Clinigol yn y Ganolfan, ac Athro er Anrhydedd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd; “Â’r canlyniadau PCR positif parhaol yn cael effaith negyddol ar ei iechyd a’i iechyd meddwl, fe wnaethon ni benderfynu ar ddull therapiwtig.”

“Fe wnaethon ni feddwl tybed a fyddai brechu therapiwtig yn helpu i gael gwared â’r feirws yn gyfan gwbl, drwy ysgogi ymateb cryf o ran ei imiwnedd, yn ei gorff.

Fe wnaethon ni roi dau ddos o’r brechiad BioNTech Pfizer i’r claf, fis ar wahân i’w gilydd, a gweld, yn gyflym iawn, ymateb cryf o ran gwrthgyrff – llawer cryfach nag oedd wedi’i ysgogi gan yr haint naturiol estynedig.

Gwelodd ymchwilwyr yn y Ganolfan, sydd wedi’i lleoli Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ymateb cell-T cryf hefyd – credir bod y gangen hon o’r system imiwnedd yn hanfodol o ran trechu’r feirws.

Dywedodd Dr Mark Ponsford, gwyddonydd clinigol o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, iddyn nhw gael cadarnhad terfynol o ran cael gwared ar SARS-CoV-2, 72 niwrnod ar ôl y dos cyntaf o’r brechiad, a 218 niwrnod ers i’r feirws gael ei ganfod gyntaf yng nghorff Mr Lester.

Dywedodd “roedd yn eiliad anhygoel a dweud y lleiaf”.

“Hyd y gwyddom ni, dyma’r tro cyntaf I frechiad mRNA gael ei ddefnyddio i gael gwared ar yr haint COVID-19 parhaus. Yn bwysig, cafodd y brechiad ei oddef yn dda gan y claf, a llwyddodd y brechiad i ysgogi ymateb cryf o ran gwrthgyrff cell-T. Roedd hyn yn rhyfeddol, ag ymateb Ian i frechiadau confensiynol yn y gorffennol wedi bod yn hynod gyfyngedig.”

Bydd angen i wyddonwyr ailgynhyrchu’r gwaith hwn er mwyn cadarnhau’r cysylltiad, a gweld os ellir ei ddefnyddio mewn achosion eraill.

Rydym ni gyd wedi gweld pa mor hanfodol yw’r brechiad o ran y frwydr sydd yn parhau i fynd rhagddi yn erbyn y pandemig byd-eang, – ond ein hastudiaeth ni yw’r gyntaf i amlygu’r posibilrwydd cyffrous o ran defnyddio’r brechiad fel triniaeth ar gyfer haint sy’n parhau,” meddai Dr Ponsford.

Er bod achosion o imiwnoddiffygiant a achosir gan eneteg yn brin, mae llawer rhagor o unigolion sydd â system imiwnedd wan, a hynny o ganlyniad i’w cyflyrau meddygol a’u triniaethau. Dylem fod yn effro i haint COVID-19 parhaus yn y cyd-destun hwn, a mynd ati i ddatblygu’r offer sydd eu hangen i ymateb mewn ffordd addas.

Stori Ian: ‘Roedd pob prawf yn dod yn ôl yn bositif, dro ar ôl tro’

“Pan ddaliais i’r feirws i ddechrau, yn Rhagfyr 2020, ro’n i wedi synnu gan mai prin oedd fy symptomau – yr un amlycaf oedd colli’r gallu i arogli a blasu. Fe roddais i wybod i’r adran Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan fyd mod dan eu gofal ers yn blentyn. Roedden nhw’n pryderu gan eu bod yn credu y gallai pobl sydd ag imiwnedd gwan aros yn heintus am gyfnod hirach na’r arferol. Roeddwn yn derbyn pecyn swab PCR i’w wneud gartref, yn rheolaidd, er mwyn monitro fy statws. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gallu rhoi’r gorau i hunanynysu 10 niwrnod ar ôl dal y feirws, roeddwn i’n eithriad i’r rheol. Roedd pob prawf yn dod yn ôl yn bositif, dro ar ôl tro Fe wnaeth misoedd basio, ac mae hynny’n teimlo fel oes pan nad ydych chi’n gallu mynd i unman na gweld ffrindiau a theulu.

“Aeth fy symptomau’n raddol waeth – yr hiraf roedd gen i’r feirws. Roedd hyn yn cynnwys blinder eithafol, diffyg cwsg (yn ffiniol o ran insomnia), cur pen a thyndra yn fy mrest. Roedd pob swab COVID positif (bob 10-14 niwrnod) yn gwneud i mi deimlo’n fwy digalon ac yn cynyddu fy mhryderon. Roeddwn i wedi dechrau teimlo fel carcharor yn fy nghartref fy hun, ac fe drodd y diwrnodau yn fisoedd. Erbyn Mehefin 2021, pan roedd digwyddiadau cymdeithasol yn cael digwydd unwaith yn rhagor, roeddwn i’n teimlo’n hynod o rwystredig ac fe ddechreuais i amau a fyddwn i yn cael prawf negyddol fyth.

“Yn fy achos i, roedd yr opsiynau o ran triniaethau yn gyfyngedig iawn. Trafodwyd meddyginiaeth gwrthfeirysol, er nad oedd ariannu hynny drwy’r GIG yn bosib ar y pryd, gan nad oedd fy symptomau COVID mor wael nes bod yn rhaid mynd i’r ysbyty. Pan wnaeth yr ysbyty awgrymu’r brechiad er mwyn ceisio helpu i ymladd y feirws, roeddwn yn fwy na pharod i roi tro ar hynny, gan fy mod yn ymddiried yn llwyr yn eu gwybodaeth glinigol.

“Yn dilyn fy mrechiad cyntaf ym mis Mai, dechreuodd y profi PCR awgrymu bod fy nghorff, o’r diwedd, yn ymladd y feirws. Roeddwn i’n teimlo’n hynod gyffrous ynghylch hyn, ac fe wnes i ddechrau dychmygu cael bywyd go iawn unwaith yn rhagor. Yn anffodus, wnaeth hynny ddim para yn hir, ac achosodd hynny ragor o rwystredigaeth. Rhoddwyd yr ail frechiad i mi dair wythnos a hanner yn ddiweddarach – ac wyth wythnos yn ddiweddarach, fe wnes i ddechrau cael profion COVID negyddol, cyson.

Roeddwn i ar ben fy nigon, ac roedd y rhyddhad yn enfawr; roeddwn i’n negyddol o’r diwedd, ac yn gallu dechrau byw fy mywyd unwaith eto. Roeddwn i’n hynod o ffodus fod gen i rwydwaith cryf o deulu a ffrindiau yn fy nghefnogi, ac fe helpodd hynny’n aruthrol o ran fy stad feddyliol. Ers profi’n negyddol, rydw i wedi sylwi ar rai symptomau COVID hir. Ond mae hynny’n bris bychan i’w dalu am fy rhyddid.

“Rydw i’n hynod o ddiolchgar am yr holl gymorth a’r gofal gan y doctoriaid a’r nyrsys yn nhîm yr Adran Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Roeddwn i’n teimlo eu bod nhw gyda mi bob cam o’r ffordd, ac yn barod i wrando ar fy mhryderon. “Fe aethon nhw’r tu hwnt i bob disgwyliad wrth ofalu amdana i. Fe fyddai’n fythol ddiolchgar.”

Rhannu’r stori hon