Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr gyntaf i un o gynfyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd

15 Mawrth 2022

Emma Carr-Ferguson
Emma Carr-Ferguson

Mae Emma Carr-Ferguson wedi ennill y wobr gyntaf arbennig o $20,000 mewn cystadleuaeth ysgrifennu ar-lein a gynhaliwyd gan Vocal.

Mae ei chofnod galarus a chraff, Until the Rain Stops, yn llinell amser iasol ond teimladwy o drychineb mewn pwll glo yng Nghymru.  Dywedodd y Prif Feirniad, awdur a chyn-feirniad ar gyfer Gwobr Booker, Erica Wagner:

“Mae Ferguson yn amsernodi ei stori, Until the Rain Stops, i greu synnwyr o uniongyrchedd. Mae’n tynnu ein sylw at y ddelwedd o waed yn troi’n wydr yng ngwythiennau merch ifanc.

Pwy yw'r plant 'gwyllt ac esgyrnog' hynny? Pan fydd y chwisl ager yn seinio, mae’n codi’r un ofn ar y darllenydd ag y mae’n ei godi ar y bobl yn y stori.”

Penderfynodd Emma gymryd rhan yn y gystadleuaeth ysgrifennu hon ar ôl cwblhau cwrs Ffuglen i Oedolion Ifanc yr Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol.  Dywedodd Emma:

“Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn. Mwynheais bob sesiwn. Cefais gyngor gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar sut mae awduron yn mynd ar drywydd cyfleoedd.

Mae fy agwedd at droi fy hobi’n yrfa bosibl wedi newid yn llwyr. Datblygais ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n diffinio'r genre, sut i gynllunio nofel, sut i fynd at y diwydiant cyhoeddi a sut mae awduron yn dod o hyd i gyfleoedd.

Emma Carr-Ferguson
Emma Carr-Ferguson

Rwyf wedi bod yn datblygu fy sgiliau ysgrifennu ers amser maith, ond drwy’r cwrs hwn, dysgais sut i’w cymhwyso mewn ffordd ymarferol. Nid oeddwn yn gwybod bod y cwrs yn gam pendant ymlaen at ystyried fy hun yn ddarpar awdur o ddifrif.

Gwnaeth hefyd ddangos i mi fod y diwydiant cyhoeddi o fewn fy nghyrraedd. Rhoddodd y cwrs hwb i’m hyder, ac o ganlyniad, rwyf wedi manteisio ar fwy o gyfleoedd, sydd wedi arwain at y llwyddiant hwn. Rwy’n ddiolchgar dros ben i Gemma Scammell am ei chefnogaeth.”

Dywedodd Cydlynydd Rhaglen y Dyniaethau yn yr Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol, Dr Michelle Deininger:

“Dylid llongyfarch Emma am y fath stori grefftus, sy’n glynu’n agos wrth etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Cymru ac sy’n cael ei hategu gan werthfawrogiad o bŵer afreolus natur.

Mae traddodiad y stori fer mor amlwg yng Nghymru. Felly, mae'n hyfryd gweld awdur newydd yn mynd i’r afael â’r genre hwn. Mae cyrsiau ysgrifennu creadigol, fel Ffuglen i Oedolion Ifanc, yn helpu oedolion i roi cynnig ar syniadau newydd a dod o hyd i’w llais eu hunain – mae Emma’n bendant wedi gwneud hyn.”

Darllenwch stori arobryn Emma yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gael yma.

Rhannu’r stori hon