Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Haf DPP Rithwir RHAD AC AM DDIM – cadwch eich lle nawr

14 Mawrth 2022

Virtual Summer School 2022 logo

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein rhaglen DPP rithwir rhad ac am ddim yn ôl am ei thrydedd flwyddyn!

Ar gyfer Ysgol Haf Rithwir 2022, rydym wedi ymuno â nifer o sefydliadau a chanolfannau ymchwil y Brifysgol i gyflwyno rhaglen o weminarau a drefnwyd i roi sylw i’r gwaith cyffrous ac arloesol sy'n cael ei wneud, gan gynnwys sut y gall yr ymchwil hon eich helpu i wella eich sgiliau a gwybodaeth broffesiynol.

Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau a chanolfannau ymchwil i greu sesiynau sy'n trin a thrafod ffactorau llwyddiant hollbwysig i achub, adfywio ac adnewyddu yn dilyn pandemig COVID-19, gan gynnwys edrych ar feysydd lle gellir uwchsgilio, ailsgilio a datblygu sgiliau newydd.

Mae unarddeg sesiwn ar gael i gadw lle ynddynt, gan gynnwys sesiynau ar bynciau mor amrywiol â cherbydau trydan, effaith yr economi greadigol a byd dirgel lled-ddargludyddion.

Mae ein Hysgol Haf yn cael ei chynnal o 13 Mehefin tan 23 Mehefin. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ond mae angen i chi gofrestru. Nid oes modd cofrestru ar gyfer y rhaglen hon bellach.

Wythnos 1: 13 - 17 Mehefin

SesiwnAmserCrynodeb

SIOC Y NEWYDD: SWYDDI A SGILIAU YN EIN DYFODOL TRYDANOL

Yr Athro Peter Wells | Canolfan Ymchwil i’r Diwydiant Moduro

DYDD LLUN 13 MEHEFIN
09:00 - 10:00

Mae'r sesiwn hon am y swyddi i'w creu (a'u colli) a'r sgiliau sydd eu hangen ar draws y sectorau gwerthu, gwasanaethu a thrwsio yn y normal newydd o geir trydan a ddefnyddir bob dydd.

SYSTEM DYNODWYR YMDDYGIADOL THINCS: ADNODD ASESU I GEFNOGI SUT MAE GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB YN RHEOLI DIGWYDDIADAU’N DDIOGEL

Dr Philip Butler | Prosiect Ymchwil THINCS

DYDD MAWRTH 14 MEHEFIN
11:00 - 11:45

Mae THINCS yn system marcio ymddygiad a gafodd ei chynhyrchu ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân. Mae'n offeryn asesu sy'n mesur perfformiad sgiliau cymdeithasol, gwybyddol a phersonol sy'n hanfodol ar gyfer rheoli digwyddiadau'r FRS yn ddiogel.

Bydd taith trwy ei ddatblygiad, ei werthusiad a'i effaith yn amlygu'r ymchwil ac yn manylu ar y system a'i ap.

ARLOESI YM MAES GOFAL CYMDEITHASOL: PARADOCSAU, HERIAU A CHREU DIWYLLIANT SY’N GALLUOGI POBL

Alexis Palá | Y Lab, Babs Lewis a Robert Jamieson | Canlyniadau wedi’u Pweru gan Bobl, Nesta

Stephanie Griffith | Gofal Cymdeithasol Cymru

DYDD MAWRTH 14 MEHEFIN 13:00 - 14:00
Ymunwch â Gofal Cymdeithasol Cymru, Canlyniadau Pŵer Pobl yn Nesta ac Y Lab o Brifysgol Caerdydd i ddysgu am ein dull ar y cyd o gyflwyno ymchwil i gefnogi arloesedd ac edrych ar ein canfyddiadau rhagarweiniol.
Mae pobl yng Nghymru sydd ag egni a syniadau yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnig gofal cymdeithasol ystyrlon. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen arloesi i helpu i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig.
Ar ddechrau 2022, edrychodd y siaradwyr a enwyd ar yr arloesedd sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Buont yn edrych ar bwy sydd yn y maes hwn ar hyn o bryd, sut y gallwn ddod â phobl newydd gyda ni, a sut y gallwn gefnogi arloeswyr yn well i dyfu, graddio a lledaenu dulliau newydd sy'n galluogi pobl i fyw eu bywyd gorau heb beryglu cenedlaethau'r dyfodol?
Bydd y sesiwn hon yn rhannu ein dull o ateb y cwestiynau hyn, yr hyn a ddatgelwyd, a'r hyn sydd wedi'i wneud ers hynny.

BYD CYFFROUS GWYDDORAU DATA!

Yr Athro Alexander Balinsky | Ysgol Mathemateg

Dr Debbie Cooper |Swyddfa Ystadegau Gwladol

DYDD MERCHER 15 MEHEFIN
11:00 - 12:00

Gellir cymhwyso gwyddor data i helpu i ddatrys cymaint o heriau ein byd modern, gan ei wneud yn faes cyffrous i weithio ynddo.

Bydd y sesiwn hon, a gynhelir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn siarad am enghraifft benodol o wyddor data wrth gymhwyso a’r cyfleoedd sydd ar gael i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y maes.

PARTNERIAETHAU – NID YN UNIG AR GYFER DYLANWADWYR

Dr Jack Underwood | Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl

DYDD IAU 16 MEHEFIN
11:00 - 11:30

Cydweithio yw asgwrn cefn ymchwil wyddonol, ond nid yw'n ymestyn i'r byd academaidd a phrifysgolion yn unig.

Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r buddion cyffredin i elusennau, cwmnïau a sefydliadau trydydd sector o gydweithio ar brosiectau ymchwil, a sut y gellir cyfnewid sgiliau i helpu pawb i lwyddo.

TRIN A THRAFOD DATBLYGIAD SGILIAU YMGYNGHORI O BELL YM MAES HYFFORDDIANT GOFAL IECHYD

Dr Dorottya Cserzo | Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol

DYDD GWENER 17 MEHEFIN
11:00 - 12:00

Mae'r sesiwn hon yn cyflwyno prosiect ymchwil cynlluniedig sy'n archwilio datblygiad sgiliau ymgynghori o bell mewn hyfforddiant gofal iechyd.

Bydd y sesiwn yn dechrau drwy adolygu'r llenyddiaeth am sgiliau ymgynghori, hyfforddiant sgiliau ac ymgynghori o bell. Yn yr ail hanner bydd y siaradwr yn gwahodd safbwyntiau a barn ar gynllun yr ymchwil.

DATBLYGU CYNNWYS Y CYHOEDD A CHLEIFION (PPI) MEWN YMCHWIL TREIALON CLINIGOL

Peter Gee, Julie Hepburn | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Yr Athro Oliver Ottmann | Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC)

DYDD GWENER 17 MEHEFIN
13:00 - 14:30

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o gyfleoedd PPI mewn ymchwil canser clinigol yng Nghymru. Byddwn yn archwilio'r manteision a rennir i ddiwydiant a'r gymuned ganser o ddatblygu therapïau a thechnolegau newydd mewn partneriaeth ac yn amlinellu'r gweithgareddau a'r cymorth sydd ar gael i wneud y gwaith hwn.

Wythnos 2: 20 - 23 Mehefin

SessionTimeSummary

Y TU MEWN I FYD DIRGEL LLED-DDARGLUDYDDION

Chris Meadows | CSconnected

DYDD LLUN 20 MEHEFIN
11:00 - 11:45
Hyd nes i brinder mawr o led-ddargludyddion effeithio ar gadwyni cyflenwi lluosog, pwy wyddai fod car nodweddiadol yn cynnwys tua 3,000 o ddyfeisiau lled-ddargludyddion?
Mae lled-ddargludyddion a gyflwynwyd yn yr oes ddigidol a technolegau’r genhedlaeth nesaf ar fin trawsnewid ein bywydau ymhellach mewn ffyrdd na allwn eu dychmygu eto.
Mae Cymru yn gartref i eco-system drawiadol o sefydliadau sy’n ymchwilio, yn arloesi ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion lled-ddargludyddion uwch.

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i fyd dirgel lled-ddargludyddion, sefyllfa unigryw Cymru, a’r cyfleoedd y mae’r sector yn eu cynnig.

CREADIGRWYDD YN CREU CYFLEOEDD: TWF A DATBLYGIAD ECONOMI GREADIGOL Y DU A PHAM MAE’N BWYSIG I BOB BUSNES

Yr Athro Sara Pepper | Caerdydd Creadigol/Clwstwr

DYDD LLUN 20 MEHEFIN
14:00 - 15:00
Mae dros 2.5 miliwn o swyddi yn economi greadigol y DU. Mae'r gweithlu sylweddol hwn yn cwmpasu nifer o ddiwydiannau sydd â phobl greadigol - o ddylunwyr i beirianwyr meddalwedd, swyddogion marchnata gweithredol i ffotograffwyr - yn rhan o sefydliadau ar draws pob sector.
Bydd y sesiwn hon yn ystyried twf a datblygiad economi greadigol y DU yn y degawd diwethaf a pham mae’n bwysig i bob busnes, ac i gymdeithas.

DULLIAU CYFWELD SY’N YSGOGI TRA’N GWEITHIO GYDA PLANT A THEULUOEDD

Yr Athro Donald Forrester | CASCADE

DYDD MAWRTH 21 MEHEFIN
11:00 - 12:30
Mae cyfweliadau cymhellol (MI) yn cynnig ffyrdd o feddwl am gyfathrebu ac adnoddau sgiliau y mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn eu defnyddio'n gyson i gael cyfarfodydd gwell gyda rhieni ac eraill. Mae ganddo hefyd sylfaen dystiolaeth gref ar draws llawer o leoliadau.
Mae Donald Forrester yn arbenigwr rhyngwladol blaenllaw mewn MI ar gyfer gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd. Mae wedi astudio a hyfforddi cannoedd o weithwyr cymdeithasol ac wedi datblygu ffyrdd newydd o ddeall y cyfraniad y gall MI ei wneud.

ARLOESI YM MEYSYDD CAFFAEL A RHEOLI’R GADWYN GYFLENWI

Dr Jane Lynch a Dr Oishee Kundu | Y Lab

DYDD MAWRTH 21 MEHEFIN
14:00 - 15:00

'Arloesi yw'r safon newydd’ – mae sôn am arloesi ym mron pob dogfen strategaeth neu ddatganiad o werthoedd, fel petai. Os ydych yn weithiwr caffael proffesiynol neu’n gyflenwr, beth mae arloesi’n ei olygu i chi?

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ryngweithiol hon, lle byddwn yn amlinellu rhai o’r pethau sy’n galluogi neu’n rhwystro arloesi yng Nghymru.

DEALL IECHYD MEDDWL MWSLIMIAID: DATBLYGU SGILIAU’R GWEITHWYR GWASANAETHAU CYHOEDDUS PROFFESIYNOL AR Y RHENG-FLAEN

Dr Asma Khan | Y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU

DYDD MERCHER 22 MEHEFIN
11:00 - 12:00

Mae ymchwil yn dangos bod llai o Fwslimiaid ym Mhrydain yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gallai gwell dealltwriaeth ymhlith ystod eang o weithwyr rheng flaen o sut mae Mwslimiaid yn deall ac yn profi problemau iechyd meddwl arwain at gynnig cymorth a gwasanaethau gwell.

DYFODOL SGILIAU YN Y PEDWERYDD CHWYLDRO DIWYDIANNOL

Yr Athro Phillip Brown | Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd

DYDD MERCHER 22 MEHEFIN
13:00 - 14:00

Mae tarfu digidol yn gweddnewid pob agwedd ar yr economi a’r gymdeithas. Cynnydd mewn meysydd rhyngddisgyblaethol sy’n gyfrifol am darfu o’r fath ac mae hyn yn arwain at ddatblygiadau technolegol arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial, roboteg, gweithgynhyrchu haen-ar-haen, bioleg synthetig, deunyddiau clyfar ac ati.

Mae’r sylw yn y cyfryngau i’r datblygiadau hyn wedi pwysleisio posibilrwydd diweithdra technolegol torfol fydd yn deillio o’r broses o awtomatiaeth yn y gweithle. Ond mae pryderon o’r fath wedi bod yn rhan o bob chwyldro diwydiannol cyn hyn.

Felly beth sydd mor arwyddocaol neu ‘chwyldroadol’ am ddatblygiadau heddiw ym maes arloesi digidol?

Mae’r sesiwn hon yn trin a thrafod y ffyrdd gwahanol y mae’r chwyldro diwydiannol wedi cael ei ddehongli a rôl technolegau digidol wrth (ail)lunio dyfodol gwaith, addysg a marchnadoedd llafur. Bydd yr Athro Brown yn cyflwyno damcaniaeth ‘prinder swyddi’ yn hytrach na ‘phrinder llafur’. Nid yw hyn yn gyfystyr â diwedd gwaith ond yn hytrach yr angen i ailasesu polisïau cyhoeddus presennol mewn ffordd sylfaenol.

PWER CYNNWYS Y CELFYDDYDAU YM MAES GOFAL IECHYD

Dr Sofia Vougioukalou | Y Lab

Kate Strudwick | Celf ar y Blaen

DYDD IAU 23 MEHEFIN
11:00 - 12:00

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o'r ffordd orau o ymgorffori'r celfyddydau mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol a thrafod effaith ymgysylltu creadigol ar wahanol grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Rhaglen ddigwyddiadau lawn

Virtual Summer School poster in English

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu os hoffech drafod rhaglen DPP ar gyfer eich sefydliad, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.