Ewch i’r prif gynnwys

Tri o bob pump o ysmygwyr ifanc yng Nghymru yn defnyddio sigaréts menthol cyn iddyn nhw gael eu gwahardd

14 Mawrth 2022

Roedd y defnydd o sigaréts menthol ymhlith ysmygwyr dan oed yn gyffredin yng Nghymru cyn iddyn nhw gael eu gwahardd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Stirling.

Canfu'r astudiaeth – y gyntaf i ddatgelu graddau llawn y defnydd o sigaréts â blas yn y grŵp oedran hwn – fod 60.5% o ysmygwyr rhwng 11 ac 16 oed wedi dweud eu bod wedi defnyddio sigaréts menthol yn ystod y 30 diwrnod cyn i’r arolwg gael ei gynnal yn 2019. Datgelodd hefyd fod 42.3% o bobl ifanc yn defnyddio sigaréts â chapsiwl menthol ac roedd 18.2% yn defnyddio sigaréts menthol traddodiadol heb gapsiwl. Daeth gwaharddiad ar sigaréts â blas i rym yn 2020.

Casglwyd data ar gyfer yr astudiaeth yn sgîl Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Cymru (SHRN) a lenwyd gan bron i 120,000 o ddisgyblion ysgol rhwng 11 ac 16 oed. Dyma'r arolwg ieuenctid mwyaf yn y byd, ac roedd y sampl yn cyfrif am ddwy ran o dair o'r holl blant yn y grŵp oedran hwnnw yng Nghymru.

Bu’r Dr Nicholas Page a'r Athro Graham Moore, yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cydweithio ar yr ymchwil â Dr Crawford Moodie, Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Marchnata Cymdeithasol ac Iechyd (ISMH) ym Mhrifysgol Stirling.

Dyma a ddywedodd Dr Page: "Mae'r astudiaeth hon yn pwysleisio pam roedd yn rhaid gwahardd y cynhyrchion hyn. Mae'r ffaith bod tri o bob pump o ysmygwyr dan oed yng Nghymru wedi defnyddio sigaréts menthol yn ystod y 30 diwrnod cyn yr arolwg yn dangos yn glir pa mor boblogaidd oedd y cynnyrch hwn ymhlith ysmygwyr ifanc cyn i'r gwaharddiad ddod i rym.

"Mae canfyddiadau fel y rhain hefyd yn dangos gwerth parhau i fonitro materion sy'n effeithio ar iechyd a lles plant drwy gynnal arolygon o’r boblogaeth, megis y rheiny a gynhaliodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yng Nghymru."

Sbardunwyd poblogrwydd sigaréts menthol ledled y DU pan gyflwynwyd sigaréts yn 2011 a oedd yn cynnwys un neu ragor o gapsiwlau yn yr hidlydd yr oedd modd eu gwasgu i newid y blas. Adeg yr astudiaeth, y DU oedd y farchnad fwyaf yn Ewrop ar gyfer sigaréts â chapsiwl ac un o'r marchnadoedd mwyaf yn y byd.

Arweiniodd Dr Crawford Moodie, Uwch-gymrawd Ymchwil yn yr ISMH, y papur ac mae'n gobeithio y bydd y gwaith yn rhoi llawer o wybodaeth i wledydd lle mae'r cynnyrch hwn ar werth o hyd.

Dyma a ddywedodd: "Mae’n rhaid gofyn cwestiynau pam mae sigaréts â chapsiwl, yn ogystal â'r risgiau a ddaw yn eu sgîl i blant a phobl ifanc yn arbennig, wedi cael cyn lleied o sylw.

"Un rheswm am yr amryfusedd hwn yw'r ffocws gormodol ar sigaréts electronig. Er bod e-sigaréts yn haeddu ymchwiliad, mae gwneud hynny drwy esgeuluso’n llwyr bron iawn y cynnyrch hwnnw sy'n peri i ysmygu ymddangos yn sbort ac yn hwyl i blant yn fethiant o bwys.

"Yn ogystal, mae'n rhaid inni ddeall pam mae gwerthusiad o'r gwaharddiad ar sigaréts â blas – sef un o'r polisïau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol hwyrach yn y DU ers degawdau – wedi cael ei anwybyddu i raddau helaeth. Mae gwerthusiad cynhwysfawr yn hanfodol er mwyn deall a yw'r polisi wedi bod yn effeithiol."

Cyhoeddwyd y papur, Prevalence of menthol and menthol capsule cigarette use among 11-16 year olds in Wales prior to a ban on characterising flavours in cigarettes: Findings from the 2019 Student Health and Wellbeing survey, yng nghylchgrawn Nicotine and Tobacco Research.

Partneriaeth rhwng DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU yw SHRN. Ariennir y bartneriaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhannu’r stori hon