Ewch i’r prif gynnwys

Ali Abdi, rheolwr Partneriaethau y Porth Cymunedol wedi ennill gwobr Seren Newydd.

10 Mawrth 2022

Ali Abdi - winner of the Professional Services Rising Star Celebrating Excellence award.
Ali Abdi - winner of the Professional Services Rising Star Celebrating Excellence award.

Ali Abdi, rheolwr Partneriaethau y Porth Cymunedol, wedi ennill Seren Newydd y Gwasanaethau Proffesiynol yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2022 mewn seremoni wyneb yn wyneb ar 3 Mawrth. Damian Walford Davies, Y Dirprwy Is-Ganghellor, a Claire Sanders, Y Prif Swyddog Gweithredu fu’n arwain y seremoni.

Enwebwyd 135 o unigolion a grwpiau ar draws 16 categori. Mae'r Gwobrau'n gyfle i'r holl staff ddathlu llwyddiannau rhagorol a gyflawnir yn unigol, yn rhan o dîm ac ar y cyd, a hynny mewn ystod o gategorïau.

Enwebwyd Ali gan yr arweinydd academaidd ar gyfer prosiect y Porth Cymunedol yr Athro Mhairi McVicar a ddywedodd:

"Mae Ali yn berson anhygoel sy'n cysylltu llawer o bobl i wneud newid cadarnhaol ar draws meysydd amrywiol prosiect y Porth Cymunedol...mae'n ymrwymo i bopeth y mae'n ei wneud."

Un o brosiectau mwyaf Ali ar gyfer y Porth Cymunedol yw wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl flynyddol Grangetown sy’n codi dyheadau yn y gymuned leol drwy gynnig cyngor gyrfaoedd, arweiniad ar sut i gyrraedd y brifysgol, sut i wneud cais am swyddi, a hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau i bobl Grangetown. Mae Ali yn chwarae rhan hanfodol yn yr wythnos, gan ddod â staff gwasanaethau proffesiynol uwch y brifysgol a staff academaidd yn uniongyrchol i Grangetown i gwrdd â phobl ifanc a'u teuluoedd wyneb yn wyneb.

Dywedodd Ali: "Rydw i’n falch iawn fy mod wedi ennill Gwobr Seren Newydd Prifysgol Caerdydd yn y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth blynyddol. Mae’r Porth Cymunedol wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf - mae wedi bod yn daith anhygoel. Diolch yn fawr i Mhairi McVicar am yr enwebiad."

Rhannu’r stori hon