Ewch i’r prif gynnwys

Data newydd yn codi "cwestiynau pwysig" am gysondeb cymorth i blant mewn gofal

11 March 2022

Yn ôl adroddiad, mae gweithwyr cymdeithasol mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae cyfraddau gofal yn gostwng yn teimlo'n fwy hyderus yn null gweithredu eu hawdurdod lleol.

Gofynnwyd am farn 792 o weithwyr cymdeithasol ac arweinwyr gofal ar gyfer yr astudiaeth gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE). Mae nifer yr ymatebwyr yn golygu ei fod yn un o'r arolygon mwyaf sydd wedi’i gynnal yn y DU o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Gofynnwyd nifer o gwestiynau i'r ymatebwyr yn ymwneud â'u gwaith. Un ohonynt oedd pa mor hyderus yr oeddent fod eu hawdurdod lleol yn cadw plant yn eu hardal yn ddiogel. Er i'r arolwg ddatgelu bod hyder yn uchel yn gyffredinol, roedd yn uwch mewn awdurdodau lleol sydd â chyfraddau gofal is.

Yn ôl y canfyddiadau, roedd ymarferwyr o ardaloedd lle bu gostyngiad yn nifer y plant mewn gofal, hefyd yn fwy tebygol o gredu bod gan eu hawdurdod lleol weithdrefnau sy’n ategu’r weledigaeth o ran eu harferion.

Roedd mwyafrif y rhai a holwyd yn cytuno  bod y cyfraddau gofal yng Nghymru ac yn eu hawdurdod lleol yn rhy uchel, ac mai anawsterau systemig oedd i’w cyfrif am y rhain yn bennaf. Roedd llawer yn teimlo y gellid lleihau'r rhain drwy gynnig cymorth mwy cynnar.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr amrywiadau eithafol mewn cyfraddau gofal ledled Cymru, gyda phlentyn yn Nhorfaen bum gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gofal nag un yn Sir Gaerfyrddin. Cynyddodd y gyfradd gofal yng Nghymru 59% rhwng 2003 a 2020, ac mae mwy nag 1% o blant mewn gofal ar hyn o bryd.

Meddai'r prif awdur, yr Athro Donald Forrester, sy’n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: "Fe ddisgrifiodd yr ymatebwyr sector sydd o dan bwysau eithafol – pwysau ar y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio yn y sector yn ogystal â’r teuluoedd y maent yn ceisio eu cefnogi. Er bod llawer o'r pwysau hyn wedi'u nodi mewn astudiaethau blaenorol, ychydig iawn o sylw mae arferion a phrofiadau gweithwyr cymdeithasol ac arweinwyr yn y sector wedi’i gael mewn ymchwil hyd yma."

"Mae'r adroddiad hwn yn codi cwestiynau pwysig am gysondeb y cymorth a roddir i blant mewn gofal ledled Cymru. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod gwahaniaethau o bwys yng ngwerthoedd a chanfyddiadau gweithwyr yn yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi llwyddo i ostwng cyfraddau. Maent yn fwy tebygol o fod yn hyderus ynghylch arferion yn eu hardal, yn fwy tebygol o ddweud bod y plant 'cywir' yn cael eu cymryd i ofal, ac maent yn fwy tebygol o deimlo ei bod yn bwysig cadw plant gyda'u teuluoedd.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi nodi bod lleihau nifer y plant mewn gofal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y gweithwyr cymdeithasol a'r arweinwyr gofal a gymerodd ran yn yr astudiaeth, arferion o fewn awdurdodau lleol, a dylanwad barnwyr a llysoedd, yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar ba mor debygol yw plentyn o fynd i ofal.

Codwyd pryder hefyd gan lawer am "arferion osgoi-risg" yn ardal eu hawdurdod yn ogystal â'r system ehangach. Roedd y rhai a holwyd hefyd yn teimlo bod fframweithiau arferion yn cael eu defnyddio’n anghyson mewn gwahanol rannau o Gymru.

Ychwanegodd yr Athro Forrester: “Mae hefyd yn bwysig pwysleisio nad yw'r dadansoddiad hwn yn rhoi tystiolaeth gref ynghylch pam mae cyfraddau gofal wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n dweud wrthym beth mae gweithwyr proffesiynol yn ei feddwl sy'n dylanwadu ar y cynnydd mewn cyfraddau. Maent hefyd yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o pam mae'r gyfradd yn amrywio rhwng ardaloedd, gan gynnig darlun clir o'r system."

Mae Gwasanaethau cymdeithasol a chyfraddau gofal plant yng Nghymru: Arolwg o'r sector, ar gael yma.

Mae WCPP a CASCADE yn aelodau o SPARC - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae SPARC yn rhan o Gampws Arloesedd Caerdydd ac yn dod â 12 canolfan ymchwil a sefydliad gwyddor gymdeithasol arbenigol ynghyd mewn canolfan bwrpasol, sbarc|spark, a agorodd y mis hwn.

Rhannu’r stori hon