Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Caerdydd yn anelu’n uchel gydag Admiral

9 Mawrth 2022

Bydd interniaeth haf gan Admiral a roddodd brofiad gwaith pwysig i bump o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2021 yn cael ei chynnal unwaith eto yn 2022.

Aeth #AdmiralAspire ati i greu partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i ddod o hyd i bum Intern drwy gynllun lleoli Menywod ym Maes Technoleg a Grwpiau Ethnig Lleiafrifol.

Oherwydd bod y cynllun wyth wythnos mor llwyddiannus gwnaeth dau fyfyriwr graddedig gais i ymuno â'r rhaglen i raddedigion a gynhaliwyd gan y cwmni Gwasanaethau Ariannol blaenllaw sy’n rhan o’r FTSE100.

Mae’r Intern Abdul Kasim wedi cael ei recriwtio i swydd Gwybodaeth Reoli ran-amser barhaol.

"Roedd yr interniaeth yn golygu fy mod i’n gallu datblygu sgiliau technegol ac yn sgîl hyn roeddwn i wedi magu profiad gwerthfawr wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd newydd," meddai Abdul.

"Fe wnes i wella o ran fy ngallu i weithio'n annibynnol, gan weithio o fy mhen a’m pastwn fy hun yn ogystal â bod yn greadigol. Rhoddodd yr hyder imi dderbyn lefel o gyfrifoldeb nad oedd gen i o'r blaen."

Dyma a ddywedodd Omar Al-Kamil, cyfaill graddedig Abdul yn ystod y lleoliad: "Peth gwych oedd gweld sut yr aeth Abdul ati i wneud yr holl waith a roddwyd iddo ac roedd yn dangos diddordeb ac awydd gwirioneddol i ddysgu rhagor am ei faes. Roeddwn i’n mwynhau dod i'w adnabod a’i weld yn mynd yn fwyfwy hyderus."

Gwnaeth dwy o garfan 2021, Abiya Begum ac Andrea Torrano, gais am gynllun graddedigion Admiral.

Dywedodd Abiya, a fu'n gweithio gyda'r tîm Telemateg: "Roedd bod yn Swyddog Gweithredol Cynnyrch yn golygu fy mod i’n gallu trin a thrafod sawl maes drwy rwydweithio a chysgodi pobl. Mae fy sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a datrys problemau wedi gwella’n fawr!"

Ychwanegodd Beth White, rheolwr Abiya yn ystod y rhaglen: "Mae Abiya wedi bod yn gaffaeliad gwych i'r tîm! Rydw i wedi gweld ei hyder yn blodeuo o ran ei sgiliau rhwydweithio, cyflwyno a thechnegol. All tîm Telemateg ddim diolch yn ddigonol i Abiya am ei gwaith caled. Dymunwn bob lwc iddi gyda'i gyrfa yn y dyfodol!"

Dyma a ddywedodd Andrea, a gyflogir yn y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant: "A minnau’n swyddog gweithredol prosiectau, astudiais i bolisïau Admiral sy'n gysylltiedig â theuluoedd gan nodi meysydd lle y gellid gwella pethau. Roedd y prosiect hwn yn caniatáu imi ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau a meithrin hyder wrth roi cyflwyniadau a deall AD yn well."

Mae Prifysgol Caerdydd a Admiral bellach yn bwriadu gwella ac ymestyn cynllun haf 2022 i gyrraedd grŵp ehangach o fyfyrwyr benywaidd a grwpiau ethnig lleiafrifol.

Dyma a ddywedodd Holly Needs, Arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Admiral: "Nod Admiral Aspire oedd rhoi profiad gwerthfawr go iawn i nifer o fyfyrwyr anhygoel. Yn Admiral, rydyn ni’n falch iawn o fod yn weithle amrywiol ac rydyn ni wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol sy'n meithrin arloesedd ac ymddiriedaeth lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu oherwydd y gwerth ychwanegol a ddaw yn eu sgil."

Dyma a ddywedodd Megan Jenkins, Dirprwy Bennaeth, Dyfodol Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu gweithio gydag Admiral eleni i greu pum cyfle wedi'u clustnodi drwy gynllun lleoli Menywod ym Maes a Grwpiau Ethnig Lleiafrifol. Mae gallu cynnig cyfleoedd â thâl rhagorol ar ôl cyfnod mor gythryblus yn y farchnad swyddi yn beth braf iawn."

I wneud cais, cliciwch yma i weld y ffurflen.

Dydd Sul 3 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Rhannu’r stori hon