Ewch i’r prif gynnwys

Mae tîm o fyfyrwyr ymchwil wedi derbyn gwobr yn y gystadleuaeth Architecture at Zero

17 Chwefror 2022

EZB House
EZB House

Mae Abdulrahman Alymani, myfyriwr PhD yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’i dîm o Brifysgol Gorllewin Lloegr a Texas A&M wedi derbyn gwobr ryngwladol yn y gystadleuaeth Architecture at Zero am eu prosiect Tai Biliau Sero Ecolegol (Tŷ EZB).

Cystadleuaeth ddylunio sydd o blaid datgarboneiddio, tegwch a gwydnwch, ac sy'n agored i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y byd yw Architecture at Zero. Mae'n ieuo meysydd pensaernïaeth, dylunio, peirianneg a chynllunio wrth fynd ar drywydd dylunio cynaliadwy.

Roedd cystadleuaeth 2021-22 yn herio ymgeiswyr i ddatblygu tai fforddiadwy ar gyfer teuluoedd gweithwyr fferm yn Visalia, California, sef un o ranbarthau ffermio mwyaf cynhyrchiol y byd.

Nod cynllun y tîm, y tŷ EZB, yw dylunio tai teulu fforddiadwy i weithwyr fferm sydd ag effeithlonrwydd ynni uchel, ynni adnewyddadwy a strategaethau lleihau allyriadau carbon. Mae'r dyluniad yn defnyddio technolegau a deunyddiau dethol i greu tai eco-gyfeillgar lefel uchel. Defnyddir nifer o strategaethau lleihau carbon megis ailgylchu deunyddiau a dyfrhau ecosystemau. Dyluniwyd y tai hefyd gan ddefnyddio fframiau pren o ffynonellau cyfrifol neu bren wedi'i draws-lamineiddio i wrthbwyso’r allyriadau carbon.

Llongyfarchiadau i’r tîm!

Cyflwynir Architecture at Zero gan Pacific Gas and Electric Company (PG&E); Southern California Edison (SCE); San Diego Gas and Electric (SDG&E); Southern California Gas Company (SoCalGas) a’r American Institute of Architects California (AIA CA). I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ac i weld pob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ewch i'r wefan.

Rhannu’r stori hon