Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid sylweddol yn cael ei roi i ddatblygu arweinwyr ymchwil ac arloesedd y DU

11 Chwefror 2022

Mae partneriaeth fawr, y mae Prifysgol Caerdydd yn rhan ohoni, wedi sicrhau £3.4 miliwn gan UKRI i greu rhwydwaith datblygu a fydd yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil.

Bydd Rhwydwaith Datblygu Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol 2, dan arweiniad Prifysgol Caeredin, yn cynnwys tua 300 o gymrodyr a benodwyd yn ystod rowndiau diweddaraf cynllun cyllido ymchwil ryngddisgyblaethol blaenllaw UKRI, sef Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol, a hyd at 200 o ymchwilwyr ac arloeswyr pellach a enwebwyd gan y Cynghorau Ymchwil unigol.

Bydd hyfforddiant arwain, gwasanaeth mentora a chyfleoedd i ymgysylltu ag eraill ar gael i aelodau’r Rhwydwaith Datblygu er mwyn eu helpu i arloesi a sicrhau bod eu hymchwil yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Mae'n deillio o’r bartneriaeth rhwng saith prifysgol sy’n cynnal y Rhwydwaith Datblygu cyntaf ar hyn o bryd, a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi 250 o arweinwyr ymchwil ac arloesedd a’r rhai a benodwyd yn ystod tair rownd gyntaf Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol.

Bydd yr ail Rwydwaith Datblygu’n croesawu’r rhai a benodwyd yn ystod rowndiau 4 i 6 Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol a hyd at 200 o arweinwyr ymchwil ac arloesedd ychwanegol a enwebwyd gan y Cynghorau Ymchwil.

Bydd yn cael ei ariannu am dair blynedd ac yn rhoi cyfleoedd i hyfforddi a datblygu, yn ysgogi proses o gyfnewid gwybodaeth yn allanol ac yn fewnol ac yn hyrwyddo cydweithio a chyfleoedd i rwydweithio er mwyn helpu cymrodyr i lywio'r dirwedd ymchwil ac arloesedd sy'n newid.

Dywedodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o'r bartneriaeth gyffrous hon o hyd. Mae'r cydweithio sydd wrth wraidd y Rhwydwaith Datblygu’n dod â sefydliadau masnachol, sefydliadau academaidd a sefydliadau yn y sector cyhoeddus ledled y DU ynghyd ac yn datblygu ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol mewn Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol yn cael yr effaith fwyaf posibl.

“Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinwyr ymchwil ac arloesedd effeithiol a chynnig hyfforddiant ar feithrin timau amrywiol, cydweithredu, sicrhau effaith go iawn ac arloesi, bydd yr ail Rwydwaith Datblygu’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod talent ymchwil y DU yn parhau i arwain y byd.”

Cafodd y cynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol ei greu yn 2018 i sicrhau’r don nesaf o arweinwyr ymchwil ac arloesedd blaenllaw ym maes busnes a byd academaidd y DU.

Dywedodd Dr Sara Shinton, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Datblygu Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol a Phennaeth Datblygu Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin: “Mae ein cais i greu’r ail Rwydwaith

Datblygu’n sicrhau bod cymrodyr wrth wraidd ein gwaith cynllunio a chyflawni. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r gymuned eithriadol hon o arweinwyr ymchwil ac arloesedd dros y tair blynedd nesaf wrth iddynt gymryd rhan mewn ystod fywiog o weithgareddau hyfforddi ac ymgysylltu gwych.”

Mae’r ail Rwydwaith Datblygu’n dod â phartneriaid ar draws pedair gwlad y DU a phob rhan o'r ecosystem ymchwil ac arloesedd at ei gilydd. Yn ganolog iddo mae partneriaeth rhwng wyth prifysgol sydd, gyda'i gilydd, yn gofalu am 25% o'r holl Gymrodyr Arweinwyr y Dyfodol a benodwyd hyd yma. Maent yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau i greu rhwydwaith pwerus o arweinwyr ymchwil ac arloesedd.

Yn ogystal â hynny, bydd gan yr ail Rwydwaith Datblygu gynllun ‘cyllid hyblyg’ mewnol (£300,000) i geisio ysgogi a datblygu syniadau arloesol ar gyfer gwaith i’w wneud ar y cyd gan gymrodyr a’r Rhwydwaith Datblygu.

Ynghyd â Phrifysgol Caerdydd, mae'r bartneriaeth yn dod ag arbenigwyr o sefydliadau yn y sector academaidd, y sector masnachol a'r trydydd sector at ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys Prifysgol Queen’s Belfast, Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Leeds, Vertical Future, Vitae a’r Rhwydwaith Prifysgolion ar gyfer Ymgysylltu â Pholisi.

Rhannu’r stori hon