Ewch i’r prif gynnwys

Peiriannydd o Gaerdydd yn cael ei benodi fel Cyfarwyddwr Green Ammonia Working Group UK

14 Chwefror 2022

Agustin Valera-Medina

Mae’r Ammonia Energy Association wedi penodi Dr Agustin Valera-Medina o'r Ysgol Peirianneg yn Gyfarwyddwr Green Ammonia Working Group UK.

Mae'r Ammonia Energy Association yn gymdeithas ddiwydiant ddielw fyd-eang gyda mwy na 200 o aelodau sy'n hyrwyddo'r defnydd cyfrifol o amonia mewn economi ynni cynaliadwy. Crëwyd y Green Ammonia Working Group i gefnogi’r Ammonia Energy Association, sy'n cynnwys dros 30 o arbenigwyr rhyngwladol o ddiwydiant a'r byd academaidd.

Mae tanwyddau di-garbon yn hanfodol ar gyfer systemau ynni cynaliadwy a diogel yn y dyfodol. Mae trydaneiddio yn seiliedig ar ynni adnewyddadwy yn allweddol i economi carbon sero-net, a bydd batris yn elfen bwysig o hyn. Fodd bynnag, ni all batris wneud popeth. Ni fyddant yn gadael i ni hedfan pellteroedd hir na phweru llongau neu drenau. Ac ni allant bweru economi gyfan, fel India neu'r DU, am ddyddiau heb wynt na heulwen. Ar gyfer y tasgau hyn, mae arnom angen tanwyddau newydd nad ydynt yn cynnwys carbon, y gellir eu storio a’u defnyddio’n hawdd ac yn ddiogel, ac sy'n rhad i'w cynhyrchu.

Mae'r Green Ammonia Working Group yn cefnogi systemau ynni di-garbon trwy newid tanwyddau sy'n seiliedig ar garbon am danwyddau nitrogenaidd, y gellir eu cynhyrchu am y gost isaf mewn rhanbarthau sydd â'r adnoddau adnewyddadwy gorau a'u masnachu'n fyd-eang i gael eu trawsnewid yn ynni neu’n ddefnyddiau crai mewn modd dibynadwy, rhad a glân.

Bydd Dr Valera-Medina yn ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Green Ammonia Working Group UK yn gynnar yn 2022. Mae ei gynlluniau ar gyfer y rôl yn cynnwys lledaenu'r pwnc i ddiwydiannau lle mae angen gwres, pŵer ac oeri, yn enwedig lle gellid defnyddio amonia i gymryd lle tanwyddau ffosil. Bydd y gwaith yn creu meysydd a swyddi amlddisgyblaeth newydd, swyddi ymchwil, a chyfleoedd PhD a fydd yn cael cefnogaeth gan ddiwydiant a chwaraewyr academaidd allweddol wrth ddefnyddio amonia ar gyfer datgarboneiddio. Bydd y grŵp hefyd yn mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar ddefnyddio amonia, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ddatblygu methodolegau a dyfeisiau newydd sy'n gallu lliniaru effeithiau amgylcheddol a gwenwyndra y cemegyn.

Mae diddordebau Dr Valera-Medina yn cynnwys trosglwyddo gwres a thanwyddau amgen, yn enwedig amonia, i'w defnyddio wrth gynhyrchu pŵer, gwres a gyriad trwy systemau hylosgi. Mae wedi bod yn rhan o amrywiol fyrddau gwyddonol a phaneli rhyngwladol, gan gadeirio sesiynau a chymedroli paneli diwydiannol mawr ar y testun 'Amonia at Ddefnydd Uniongyrchol'. Mae wedi cefnogi paratoi dau Briff Polisi'r Gymdeithas Frenhinol am Amonia Gwyrdd. Ar hyn o bryd mae'n gadeirydd gweithgor Hylosgi ac Allyriadau’r Ammonia Energy Association. Dr Valera-Media yw prif awdur y llyfr 'Techno-economic challenges of ammonia as energy vector' (Elsevier), a Golygydd Pennaeth y cyfnodolyn newydd Ammonia Energy.

Darganfyddwch fwy am Amonia Gwyrdd ar wefan y Green Ammonia Working Group UK.

Rhannu’r stori hon