Ewch i’r prif gynnwys

A more connected world gives us a better chance of understanding mental health

3 Chwefror 2022

A screenshot of James Walters and fellow speakers at a conference

Bu cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, yr Athro James Walters, yn cymryd rhan fel panelydd yn Expo 2020 yn Dubai, yn trafod pa mor bwysig yw byd sydd wedi’i gysylltu’n ddigidol ar gyfer hybu ymchwil iechyd meddwl.

Roedd Trafodaeth Gwyddoniaeth Ddigidol Iechyd Meddwl Uwchgynhadledd Rithwir Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd yn cynnwys panel gyda’r Athro Ann John o Brifysgol Abertawe a'r Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc, yr Athro Alka Ahuja MBE.

Roedd y drafodaeth ar-lein a ddarlledwyd i gynulleidfa fyd-eang yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg a dulliau digidol i wella hygyrchedd i ymchwilwyr a grwpiau pwnc a chyfoethogi data, a allai arwain at welliant o ran rhoi diagnosis iechyd meddwl yn y pen draw.

Tynnodd yr Athro Walters sylw at dri maes o fewn iechyd digidol a fydd yn arwain at welliannau ymarferol ar gyfer iechyd meddwl:

  • Cynnwys mwy o ddata gan grwpiau lleiafrifol wrth gasglu data fel mater o drefn.
  • Seilwaith data gwell i ymchwilwyr, a chysylltu seilos ymchwil ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys data genetig.
  • Cysylltu â byd diwydiant i ddarparu triniaethau newydd a gwella iechyd meddwl tra’n sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd yn cydsynio ac yn cael eu cynnwys mewn gwaith ymgynghori.

“Gall data a gesglir mewn ymchwil iechyd meddwl (ac ymchwil ehangach) gynnwys gwybodaeth glinigol, gwybodaeth gymdeithasol-ddemograffig, a gwybodaeth ynghylch ffordd o fyw, ynghyd â samplau biolegol, gan gynnwys DNA”, esboniodd yr Athro Walters.

“Dyma’r data y mae ymchwilwyr yn ei ddefnyddio i ddod i’w casgliadau ynglŷn â’r ffactorau sy’n achosi salwch meddwl, y ffordd orau o roi diagnosis i bobl, sut i gynllunio gwasanaethau iechyd neu asesu therapïau newydd.

“Mae'r bobl y mae’r data hwn yn seiliedig arnynt yn bwysig oherwydd nid yw canfyddiadau ynghylch un set o bobl o reidrwydd yn berthnasol i grwpiau eraill.

Aeth yr Athro Walters ymlaen i ddweud:

Mae llawer o’r gwaith ymchwil sy’n bodoli ar hyn o bryd yn cael ei wneud ar bobl nad ydynt yn gynrychioliadol o’r boblogaeth ehangach, ac fel arfer mae hyn yn golygu bod rhai grwpiau o bobl wedi eu tangynrychioli, sef y rhai sy’n ddifreintiedig mewn ffyrdd eraill fel arfer.
Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

"Mae’n bwysig, felly, os ydym am allu cymhwyso canfyddiadau ein hymchwil yn eang, ein bod yn cynnwys pobl o’r grwpiau hyn yn ein hymchwil.”

“Mewn ymchwil genetig, fel ym mhob math o ymchwil, mae grwpiau ethnig o wledydd y tu allan i Ewrop wedi eu tangynrychioli, felly rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr yn India, Affrica ac yn rhyngwladol i’w cefnogi ac i ddatblygu ffyrdd o gynnwys pobl o’r ardaloedd a’r grwpiau ethnig hynny mewn setiau data ymchwil rhyngwladol.”

Dywedodd yr Athro John, “Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) mae gennym garfan â ffocws ar anhwylderau lle rhoddwyd diagnosis, felly mae hynny'n golygu bod gennym y raddfa i weithio'n effeithiol gyda byd diwydiant erbyn hyn.

“Mae gennym ni hefyd Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, felly mae’r seilwaith ar raddfa sy’n gallu helpu i drosi’r gwaith hwnnw’n bolisïau ac arferion.”

Wrth sôn am heriau’r gwaith ymchwil yn wyneb pandemig COVID-19, dywedodd yr Athro Ahuja, a helpodd i sefydlu Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru “Mae’r pandemig wedi arwain at golli ein trefn ddyddiol, colli teulu a ffrindiau, diweithdra ac unigrwydd, ond yr hyn rydyn ni wedi gallu ei wneud yng Nghymru yw cynhyrchu data sy'n gweithio.

"Mae technoleg yma i aros ac rydyn ni nawr yn meddwl am sut gall technoleg ddatrys problemau, gyda newid yn ein ffordd o feddwl er mwyn cyrraedd y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

I gloi, pwysleisiodd yr Athro Walters yr angen i adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn, “Rydyn ni am i bobl ymgysylltu â ni: Gofynnwn i’r rhai sydd â syniadau neu setiau data clinigol ymuno â ni a’r consortia rhyngwladol y mae rhai ohonom yn eu harwain ac sydd mor bwysig ar gyfer hybu ymchwil.

“Mae angen i ni gefnogi a meithrin ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa er mwyn datblygu rhwydweithiau rhyngwladol ymhellach. Rydyn ni hefyd yn awyddus bod ein setiau data iechyd meddwl yn cael eu cyrchu a’u defnyddio, ac mae gan Gymru adnoddau unigryw yn hyn o beth, felly cysylltwch â ni ar bob cyfrif.”

“Rydyn ni’n awyddus iawn i ymgysylltu, o’r wyddoniaeth sylfaenol i’r gwaith trosiadol - mae’r cyfan yn bwysig os ydym am fynd i’r afael â salwch meddwl gyda’n gilydd.”

Mae recordiad o’r drafodaeth ar gael ar wefan Gwyddor Bywyd Cymru.

Rhannu’r stori hon