Ewch i’r prif gynnwys

Dychwelodd Marchnad y Byd Grangetown i Bafiliwn y Grange ar gyfer y gwyliau

3 Chwefror 2022

Grangetown Christmas market
Grangetown Christmas market

Ar ôl saib hir oherwydd y pandemig, ail-lansiwyd Marchnad y Byd Grangetown o'r diwedd ym Mhafiliwn Grange ar gyfer tair marchnad yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2021.

Aeth llawer o drigolion Grangetown i’r marchnadoedd, yn ogystal â phobl leol o’r ardaloedd cyfagos, gan greu awyrgylch gwych yn y Pafiliwn wrth i bawb bori drwy’r dewis o stondinau yn y marchnadoedd. Roedd caffi Hideout yn gweini diodydd poeth, cawl ffres a chacennau i gynhesu pobl yn ystod tywydd oer y gaeaf.

Roedd tua pymtheg o stondinau gwahanol yno bob tro’n gwerthu eitemau gan gynnwys canhwyllau a gemwaith wedi’u gwneud â llaw, crysau-t personol, tuswau Nadoligaidd, a bwyd blasus. At hynny, roedd gan Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Fforwm Ieuenctid Pafiliwn y Grange yng Nghaerdydd stondin a chodwyd arian i helpu i gefnogi eu prosiectau gyda phobl ifanc

Dyma a ddywedodd Steve Duffy, Gweithredu Cymunedol Grangetown a Grangetown News:

Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig a heriol iawn i bawb, ond roedden ni’n falch ein bod wedi gallu cael y cyfle o leiaf i gynnal rhai digwyddiadau cyfyngedig. Cafodd y marchnadoedd gefnogaeth dda ac roedd yn rhyddhad eu gweld unwaith eto. Rwy'n meddwl ei fod hefyd yn dangos potensial y Pafiliwn a’i fod yn gallu addasu yn gyflym yn ôl y cyd-destun, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Mae'n lle anhygoel, y tu mewn i’r adeilad a'r tu allan iddo, felly gobeithio y bydd y farchnad yn gallu sefydlu ei hun yn 2022 a gallwn ni arddangos y crefftwyr, y dylunwyr a’r cynhyrchwyr dawnus sy'n byw yn lleol.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Marchnad y Byd Grangetown yn dychwelyd i Bafiliwn Grange ar gyfer slot rheolaidd ar ddydd Sadwrn o wanwyn 2022. Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf yn @Grange_Pavilion a @GtownWM

Rhannu’r stori hon